Daeth yr ymgynghoriad i ben 11 Mawrth 2015.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 130 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ynghylch pa swyddi y dylid eu cynnwys yn y Gorchymyn Anghymhwyso nesaf, fel bod yr unigolion sy'n dal y swyddi hynny yn anghymhwyso rhag bod yn Aelod Cynulliad.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Cyn pob etholiad Cynulliad gwneir Gorchymyn Anghymhwyso newydd sy’n nodi’r rhestr o’r swyddi sy’n anghymhwyso’r unigolion sy’n dal y swyddi hynny rhag bod yn Aelod Cynulliad.
Mae’r ymgynghoriad yn gofyn am eich safbwyntiau ar y canlynol:
- A ddylid cynnwys y swyddi a nodir yn y Gorchymyn Anghymhwyso drafft yn y Gorchymyn Anghymhwyso nesaf?
- A oes unrhyw swyddi sydd heb eu cynnwys yn y Gorchymyn Anghymhwyso drafft neu sydd wedi’u hanghymhwyso dan adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 neu ddeddfwriaeth arall a ddylai anghymhwyso eu deiliaid rhag aelodaeth o’r Cynulliad?
