Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi £30m o gyllid ychwanegol er mwyn helpu i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen y gaeaf hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian yn helpu pobl i gael gofal yn agosach i'r cartref a bydd yn golygu bod modd i bobl adael yr ysbyty pan fyddant yn barod i wneud hynny, gan sicrhau bod unrhyw ofal neu gymorth parhaus angenrheidiol yn ei le. 

O'r £30m, bydd £17m yn cael ei dyrannu i'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i hyrwyddo cynlluniau integredig a rhanbarthol. Bydd £10m o’r cyllid yn cael ei dyrannu i'r Byrddau Iechyd Lleol er mwyn helpu i ddarparu gwasanaethau brys yn unol â'r blaenoriaethau a nodwyd ar gyfer y gaeaf. Bydd y £3m sy'n weddill yn cael ei defnyddio ar gyfer camau gweithredu a dargedir yn genedlaethol, yn unol â'r dull gweithredu a ddilynwyd y gaeaf diwethaf. 

Yn dilyn llwyddiant cynlluniau peilot y llynedd, mae'r Gweinidog hefyd wedi cadarnhau y bydd y gwasanaeth Llesiant mewn Adrannau Brys a Dychwelyd Adref yn Ddiogel a ddarperir gan y Groes Goch Brydeinig, a'r gwasanaeth O'r Ysbyty i Gartref Iachach a ddarperir gan Gofal a Thrwsio Cymru, yn parhau dros gyfnod y gaeaf. 

Dywedodd Mr Gething:

Mae eleni wedi bod yn un o'r blynyddoedd prysuraf erioed ar gyfer gwasanaethau brys yng Nghymru. Mae'r gaeaf yn arwain at ragor o bwysau, gan gynnwys amodau oer, mwy o bobl hŷn yn cael eu derbyn i'r ysbyty a mwy o bobl yn defnyddio meddygon teulu a gwasanaethau brys. Mae ein staff, yn ogystal â chleifion, yn teimlo'r pwysau hyn. 

Rydym yn wynebu cymhlethdod arall eleni, sef gorfod paratoi at sefyllfa bosibl lle ceir Brexit heb gytundeb, a allai gael effaith sylweddol ar wasanaethau. Fodd bynnag, gyda'r cyllid ychwanegol hwn a'r gwaith cynllunio gofalus â'r Byrddau Iechyd Lleol, y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a phartneriaid, rydym yn gwneud popeth a allwn i sicrhau y gall ein gwasanaethau barhau i redeg yn effeithiol. Ynghyd â gwaith caled ac ymrwymiad ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ymroddgar, bydd hyn yn helpu i gryfhau pob rhan o’r gwasanaeth y gaeaf hwn.