Neidio i'r prif gynnwy

Mewn araith bwysig ddydd Llun, dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, fod Brexit yn cynrychioli dewis sylfaenol am ddyfodol economaidd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan siarad yng Nghaerdydd â chynulleidfa o'r byd busnes, dywedodd Ken Skates mae Brexit yw 'Brwydr ein bywydau' a dylai arweinwyr ym maes economi Cymru wrthod y 'ffantasi' treth isel a reoleiddir cyn lleied â phosibl a gynigir gan y rheini sy'n frwd dros Brexit a chefnogi dyfodol tecach i Gymru a'i heconomi.

Yn ystod yr araith, cyflwynodd Gweinidog yr Economi gyfres o gyhoeddiadau polisi, gan gynnwys cynlluniau i ddatblygu pecyn gwerth £20 miliwn o gymorth i helpu busnesau i baratoi ar gyfer Brexit. Datgelodd hefyd fod Cronfa Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru wedi treblu bron â bod i fwy na £4 miliwn.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi:

"Yn syml, dyma frwydr ein bywydau. Mae Brexit yn gofyn inni ddewis y math o economi a'r math o gymuned yr hoffwn eu gweld yng Nghymru yn y dyfodol.

"Mae rhai yn gweld ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd yn gyfle i greu model gwahanol iawn o dwf economaidd – economi treth isel sy'n cael ei rheoleiddio a'i diogelu cyn lleied â phosibl ac sy'n denu buddsoddiadau a chyfleoedd i Gymru drwy gystadleuaeth ym mhris llafur.

"Rwy'n anghytuno’n llwyr â'r dull hwn ac yn credu bod yn rhaid inni wneud mwy na'r model sy'n seiliedig ar Singapôr y mae rhai yn dadlau o'i blaid. Rwy'n gweld gormod o arloesi, gormod o sgiliau anhygoel a gormod o syniadau gwych yng Nghymru i gytuno ar y math hwnnw o weledigaeth gyfyngedig ar gyfer ein dyfodol economaidd.

"Ein tasg yw mynd y tu hwnt i drafodaethau cul heddiw ac i gyflwyno gweledigaeth ddemocrataidd gymdeithasol ar gyfer ein heconomi yn y dyfodol sy'n sicrhau tegwch i weithwyr.

"Lle y mae'r gystadleuaeth rhwng y bartneriaeth honno o genhedloedd yn digwydd drwy'r dechnoleg, y gwaith arloesi a syniadau ein pobl, nid drwy bwy all ostwng eu safonau llafur fwyaf neu cyflymaf.

Yn ystod yr araith, galwodd Gweinidog yr Economi am estyniad i Gontract Economaidd Llywodraeth Cymru sy'n rhwymo buddsoddiadau gan Lywodraeth Cymru mewn busnes â safonau newydd o ran gwaith teg ac ymrwymiad i ddatgarboneiddio.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit heb Gytundeb, gan gyhoeddi bod cynlluniau yn cael eu paratoi ar becyn gwerth £20 miliwn a fyddai'n helpu busnesau i baratoi ar gyfer Brexit.

Mae Cronfa Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru hefyd yn cael ei threblu bron â bod i fwy na £4 miliwn i gefnogi prosiectau arloesol.

Dywedodd Ken Skates:

"Drwy ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi, rydyn ni wedi newid y ffordd yr ydym yn cynnal twf economaidd i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â heriau'r dyfodol – newid yn yr hinsawdd, amodau gwaith teg a gwell cymorth o ran iechyd meddwl.

"Yn ystod yr adeg heriol hon pan mai Brexit yw pwnc llosg pob trafodaeth, mae'n bwysig ein bod yn parhau i hoelio sylw ar yr heriau hyn ac yn gweithio gyda'n gilydd i greu'r economi decach a mwy cynhwysol yr ydym i gyd am ei gweld.