Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw mae Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) wedi'i gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â'r Memorandwm Esboniadol a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol. 

Mae'r Bil yn diwygio Adran 30 9 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 sy'n ymwneud â chynlluniau ar gyfer bodloni colledion ac atebolrwyddau rhai o gyrff y gwasanaeth iechyd. 

Prif ddiben y Bil yw diwygio adran 30 o Ddeddf GIG (Cymru) 2006, gan alluogi Gweinidogion Cymru i wneid rheoliadau i sefydlu  cynlluniau indemniad uniongyrchol.  Mae'r Bil hefyd yn ehangu'r cyrff a all gael eu hindemnio gan Weinidogion Cymru o dan gynlluniau a sefydlir yn unol ag adran 30.  Bydd y pwerau hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i sefydlu Cynllun Atebolrwyddau Presennol (ELS) i indemnio Ymarferwyr Cyffredinol ar gyfer hawliadau esgeuluster clinigol hanesyddol yr adroddwyd arnynt, neu'r aed iddynt ond nad adroddwyd arnynt, cyn 1 Ebrill 2019. 

Mae'r rheoliadau  arfaethedig yn nodi sut y bydd Gweinidogion Cymru'n ystyried atebolrwydd Ymarferwyr Cyffredinol ac yn gwneud unrhyw daliadau allan o'r ELS. Mae sefydlu'r ELS yn ddarostyngedig i ddiwydrwydd dyladwy cyfreithiol ac ariannol a thrafodaethau llwyddiannus â'r Sefydliadau Amddiffyn Meddygol.  Bydd ELS yng Nghymru'n cyd-fynd â'r ELS arfaethedig i'w gyflwyno yn Lloegr. 

Bydd effaith y Bil sy'n darparu'r sylfaen gyfreithiol ar gyfer sefydlu'r ELS yn sail, ynghyd â Chynllun Atebolrwyddau'r Dyfodol y Cynllun ar gyfer Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol a gyflwynwyd yn Ebrill 2019, i gynaliadwyedd hirdymor darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol yng Nghymru.  Bydd hynny hefyd yn helpu i sicrhau na fydd unrhyw effaith andwyol ar recriwtio a chadw yng Nghymru a gweithgarwch trawsffiniol yng Nghymru a  Lloegr oherwydd y ffaith bod gwahanol gynlluniau yn gweithredu yng Nghymru a Lloegr.  

Mae'r Bil hefyd yn diogelu pwerau Gweinidogion Cymru yn y dyfodol o ran unrhyw effeithiau, siociau i'r farchnad a phwysau yn sgil digwyddiadau'r dyfodol yn ymwneud â sicrwydd esgeuluster clinigol at gyfer darparwyr gwasanaethau meddygol cyffredinol yng Nghymru.