Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn y ddadl ddoe ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA) ar Gyllido Ysgolion yng Nghymru, rwy’n falch o ddarparu manylion pellach am ymateb y Llywodraeth i Argymhelliad 1.

Bydd Luke Sibieta, yr economegydd addysg blaenllaw, yn mynd ati i ddadansoddi sut y mae cyfanswm y gwariant, a’r gwariant ar gategorïau mewnbwn gwahanol, yn amrywio rhwng ysgolion o dan amgylchiadau penodol yng Nghymru.

Bydd hyn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, sut y mae gwariant yn amrywio yn ôl gwahanol lefelau o amddifadedd, natur wledig a thwf addysg cyfrwng Cymraeg. Byddai’r dadansoddiad empirig hwn yn ystyried y gwahaniaethau yn lefelau’r gwariant canolog a’r dulliau o fynd ati i wario ymysg awdurdodau lleol. Bydd hefyd yn helpu i gyfrannu at y broses o ddod i benderfyniad ynghylch lefelau cyllido ar gyfer ysgolion a disgyblion mewn amgylchiadau amrywiol ledled y wlad.

Rwyf wedi gofyn i’r gwaith gael ei gwblhau cyn toriad haf 2020.

Cyhoeddodd PPIA ei adroddiad ar gyllido ysgolion ar 10 Gorffennaf 2019. Croesewais yr adroddiad a derbyniais bob un o'r 21 o argymhellion:

http://www.senedd.cynulliad.cymru/documents/s93706/Ymateb%20Llywodraeth%20Cymru.pdf

Bydd profiad, gwybodaeth a dealltwriaeth Luke o'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â chyllido ysgolion yn hollbwysig wrth fwrw ymlaen â hyn. Bydd ei waith ar ran y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn gyfarwydd iawn i’r aelodau.

Yn ôl dadansoddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, mae’r gwariant fesul disgybl yng Nghymru ychydig yn is na £6,000 ar gyfartaledd. Fodd bynnag, mae hyn yn amrywio’n sylweddol rhwng awdurdodau lleol, gan adlewyrchu gwahaniaethau fel amddifadedd a theneurwydd poblogaeth, yn ogystal â dewisiadau a wneir gan awdurdodau lleol yn unol â’u cyfrifoldeb i osod cyllidebau ysgolion.

Er bod cryn wahaniaeth rhwng ysgolion wrth ystyried y ffactorau sy’n dylanwadu ar eu costau, gan felly ei gwneud yn anodd nodi “isafswm cost”, bydd y gwaith hwn yn darparu dadansoddiad hanfodol ar gyfer y Llywodraeth, awdurdodau lleol, ysgolion a phawb sydd am sicrhau bod y sector addysg yng Nghymru yn cael y buddsoddiad cywir.