Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 12 Awst cyflwynais ddatganiad ysgrifenedig am fynediad i feddyginiaethau i gleifion gyda ffeibrosis systig (CF) mewn ymateb i’r pryderon parhaus a sylweddol a godwyd gan unigolion, eu teuluoedd, yr Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig, Aelodau’r Cynulliad a’r Llywodraeth.

Yn sgil cyhoeddiad GIG Lloegr yn hwyr ddoe eu bod wedi dod i gytundeb gyda’r gwneuthurwyr, Vertex, gallaf gadarnhau bod Vertex yn ymgysylltu’n gadarnhaol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru â’r nod o drefnu cytundeb cyfatebol er lles cleifion yng Nghymru.

Fy safbwynt erioed oedd y dylai meddyginiaethau newydd ac arloesol fod ar gael yn gyflym ac yn gyson i gleifion yng Nghymru eto dim ond pan fo eu cost yn adlewyrchu’r dystiolaeth o’u buddion yn deg.

Bydd Aelodau yn ymwybodol y bu’r Llywodraeth hon yn gweithio gyda Vertex er mwyn sicrhau eu bod yn cymryd rhan yn y broses werthuso seiliedig ar dystiolaeth adnabyddedig a wneir gan y Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru (AWMSG).  Gallaf gadarnhau bod Vertex wedi ymgysylltu â phroses AWMSG ers fy natganiad diweddaraf, o ran Orkambi a Symkevi ill dau.

Bu fy swyddogion yn gweithio ochr yn ochr â GIG Lloegr yn ystod y negodiadau hyn ac, o ganlyniad, mae’r cytundeb cyfreithiol a gytunwyd yn cynnwys gofyniad bod yn rhaid i Vertex gynnig termau cyfatebol i’r GIG yng Nghymru.

Oherwydd hyn a’r cytundeb a gafwyd gyda GIG Lloegr, bydd fy swyddogion yn cwrdd â chynrychiolwyr Vertex yr wythnos nesaf i drafod yn fanwl sut y gallai’r termau a gytunwyd yng nghytundeb GIG Lloegr fod yn gymwys yng Nghymru.  Sicrhaf y caiff Aelodau ddiweddariad pan fo manylion pellach ar gael.