Neidio i'r prif gynnwy

Yr SC2 yn y Rhyl yw’r atyniad diweddaraf yng Nghymru i dderbyn Gwobr Aur gan Groeso Cymru ar gyfer ansawdd cyffredinol y profiad i ymwelwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwobrau Atyniadau Croeso Cymru yn rhestru atyniadau eithriadol ledled Cymru.

Mae’r atyniad blaenllaw £15 miliwn a agorodd yn gynharach eleni wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy £720,000 o Gyllid Cymorth Buddsoddi Mewn Twristiaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, aelod arweiniol Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer Llesiant ac Annibyniaeth:

“Dyma newyddion gwych ar gyfer SC2, y Rhyl a Sir Ddinbych. Gyda’r parc dŵr newydd cyffrous hwn a’r arena Ninja TAG  cyntaf yng Nghymru, mae SC2 eisoes yn un o atyniadau mwyaf cyffrous Cymru ac fe wnaeth ddenu 10,000 o ymwelwyr yr wythnos yn ystod ei dymor haf cyntaf. Hoffem longyfarch aelodau’r staff yn SC2 am eu holl waith caled i sicrhau bod ymwelwyr yn cael y profiad gorau posibl yn yr atyniad newydd rhyfeddol hwn. Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth o’r arlwy gwych yn SC2 ac mae’n feincnod o’r ansawdd y gall ymwelwyr ei ddisgwyl.

Mae’r Gwobrau Atyniadau ar gyfer atyniadau sydd eisoes yn rhan o Gynllun Ansawdd Atyniadau Ymwelwyr Croeso Cymru ond sy’n gwneud ymdrech eithriadol i greu profiadau pleserus a chofiadwy i’w hymwelwyr. Yn ychwanegol at y Wobr Aur, gall atyniadau hefyd ennill gwobr ar gyfer Adrodd Stori Orau – ar gyfer atyniadau sy’n sicrhau rhagoriaeth wrth adrodd eu ‘stori’; Caffi o Ansawdd Gorau – ar gyfer atyniadau sy’n sicrhau atyniadau sy’n sicrhau rhagoriaeth o ran eu bwyd; a Thrysor Cudd – atyniadau/lleoedd o ddiddordeb o safon gyda niferoedd yr ymwelwyr o dan 20,000 y flwyddyn.

Mae atyniadau sydd wedi’u cydnabod ar gyfer Adrodd Stori Orau yn cynnwys: Castell Caerdydd; Amgueddfa Wlân Cymru; City Sightseeing Cardiff; Pentreperyglon, Parc Busnes Granary Court; Sw Môr Môn; Amgueddfa Lofaol Cymru Big Pit a Chastell Aberteifi – sydd hefyd wedi cael ei gydnabod am ei gaffi o Ansawdd Gorau.

Mae Carchar Rhuthun; Amgueddfa Dreftadaeth a Morwrol Aberdaugleddau; Bwthyn Penrhos Sir Benfro; Byd Mary Jones; Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Caernarfon a Neuadd Gymunedol a Chanolfan Ymwelwyr Myddfai ac Amgueddfa Forwrol Llŷn ymhlith y rhai y dyfarnwyd gwobr Trysor Cudd iddynt.

Yn ogystal â bod yn Drysor Cudd, gwnaeth Gerddi Neuadd Glansevern dderbyn gwobr Caffi o Ansawdd Gorau, yn ogystal â fferm Chwilod Dr Beynon, Tyddewi; Castell Harlech a Chanolfan Rhiannon, Tregaron.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

“Mae gan Gymru gymaint o amrywiaeth a chyfoeth o ran atyniadau a phethau i’w gwneud, mae dewis helaeth ar gyfer ein hymwelwyr a’n cymunedau, yn enwedig gan fod gymaint o’n hatyniadau yn cynnig opsiwn ar gyfer pob tywydd sy’n rhoi rheswm i bobl drefnu diwrnod allan yng Nghymru – beth bynnag fo’r tywydd. Mae’r Gwobrau Atyniadau yn cydnabod y busnesau hynny sy’n mynd y filltir ychwanegol a hefyd yn rhoi mwy o fewnwelediad i stori Cymru neu ardal leol ac yn tynnu sylw at rai trysorau llai adnabyddus – hoffwn longyfarch pob un sydd wedi’i restru.