Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd ar gyfer Mai i Orffennaf 2019.

Mae data Ch1, Ch2, Ch3 a Ch4 2018/19 yn derfynol bellach.

Prif bwyntiau

Roedd tua 17% yn llai o raglenni dysgu prentisiaeth wedi cychwyn. Mae’r gostyngiad yn nifer y rhaglenni a ddechreuwyd o ganlyniad yn bennaf i gynnydd yn 2017/18 a oedd yn parhau yn 2018/19, ac felly llai o gyllid ar gael ar gyfer rhaglenni newydd.

Dechreuwyd 6,360 o raglenni prentisiaeth yn Ch4 2018/19 o gymharu â 8,270 yn Ch4 2017/18, sy’n ostyngiad o 2%. Mae nifer y prentisiaethau a ddechreuir yn amrywio’n rheolaidd rhwng un cyfnod a’r llall.

Yn Ch4 2018/19, Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd. 47% o’r prentisiaethau a ddechreuwyd, o gymharu â 44% yn Ch4 y flwyddyn flaenorol.

Yn Ch4 2018/19, merched a ddechreuodd 68% o’r prentisiaethau, o gymharu â 65% yn Ch4 y flwyddyn flaenorol.

Mae gan Lywodraeth Cymru darged o 100,000 o brentisiaethau dros gyfnod y Cynulliad hwn (2016-2021). Asesir hyn gan ddefnyddio mesur mwy trwyadl sy’n ystyried y nifer sy’n gadael prentisiaeth yn gynnar (o fewn yr 8 wythnos gyntaf) a’r rheini sy’n trosglwyddo o un brentisiaeth i un arall. O dan y mesur hwn, dechreuwyd 5,685 o brentisiaethau yn Ch4 2018/19 Q4 a 79,595 ers cyflwyno’r targed.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.