Daeth yr ymgynghoriad i ben 20 Medi 2016.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r y crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 591 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn ar y rheoliadau drafft a wneir o dan y ddeddf hon.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Deddf 2016 yn sefydlu system newydd ar gyfer rheoleiddio ac arolygu a fydd yn amddiffyn hawliau dinasyddion Cymru i gael gofal diogel a phriodol, ac i gael eu trin ag urddas.
Rydym yn ymgynghori ar y rheoliadau drafft er mwyn gallu diweddaru ein system ar gyfer arolygu a rheoleiddio darparwyr gofal. Bydd y rheoliadau’n gwneud y canlynol:
- cryfhau’r gyfundrefn rheoleiddio ac arolygu
- helpu Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) i gynnal trosolwg o'r gwasanaeth cyfan a ddarperir gan sefydliadau
- ei gwneud hi’n haws i ddarparwyr gofrestru ac i ddinasyddion gael gwybodaeth am ddarparwyr.
