Neidio i'r prif gynnwy

Yn COP25 yn Madrid heddiw mae’r Gweinidog Lesley Griffiths wedi addo bod yn rhaid i Gymru ymuno â gwladwriaethau a rhanbarthau eraill i sicrhau 'nad oes unrhyw wledydd yn cael eu gadael ar ôl' o ran yr ymdrechion i frwydro yn erbyn effeithiau hirdymor newid hinsawdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan siarad yng Nghynulliad Cyffredinol Cynghrair Dan2 ddydd Sadwrn, gwnaeth amlinellu sut y mae Cronfa'r Dyfodol wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan gefnogi rhanbarthau economi datblygol ac sy'n dod i'r amlwg i ddatgarboneiddio drwy ddatblygu cynaliadwy. 

Pwysleisiodd sut y mae cydweithio’n hanfodol ar gyfer llwyddiant, gan fod newid hinsawdd yn ei wneud yn ofynnol i bawb gydweithio 'ar draws ffiniau daearyddol a sectorau'. 

Mae Cronfa'r Dyfodol yn ei gwneud hi'n bosibl i lywodraethau gyflymu'r symud tuag at gynhesu byd-eang sy'n llai na 2°C, drwy gyllid strategol i gefnogi gweithgareddau hinsawdd mewn rhanbarthau economi datblygol ac sy'n dod i'r amlwg yn ogystal â darparu manteision iechyd ac economaidd-gymdeithasol sydd eu hangen yn fawr. 

Mae gan Gymru eisoes gefndir o gefnogi gwledydd i fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd. Mae Rhaglen Cymru o Blaid Affrica wedi bod yn plannu coeden yn Affrica ac yng Nghymru bob tro y mae plentyn yn cael ei eni yng Nghymru am yr 11 mlynedd diwethaf. 

Mae'r cynllun wedi diogelu ardal o goedwig sydd yr un maint â Chymru yn Affrica,  gyda'r 10fed miliwn coeden wedi'i phlannu yn Affrica yn gynharach eleni.

Mae llawer o'r coed wedi'u plannu yng ngerddi coffi ffermwyr Masnach Deg, gan roi cysgod, ffrwyth, coed tân a phren hollbwysig iddynt. 

Yn ystod ei haraith gwnaeth y Gweinidog amlinellu'r camau arwyddocaol a gymerwyd yng Nghymru ers y Gynhadledd Ryngwladol ddiwethaf o'r partïon a gynhaliwyd yng Ngwlad Pwyl y llynedd. Y Cynulliad Cenedlaethol yw’r senedd gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd. Mae Cymru'n cynyddu ei tharged ar gyfer gostwng allyriadau carbon yn 2050 i 95% o leiaf ac yn meddu ar yr uchelgais i fod yn sero net.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

Rydyn ni angen i bawb sy'n mynd i’r gynhadledd hon sicrhau nad oes unrhyw wledydd yn cael eu gadael ar ôl o ran yr ymdrechion i frwydro yn erbyn effeithiau hirdymor newid hinsawdd ac ymdrechu i gefnogi rhanbarthau datblygol ac sy'n dod i'r amlwg i ddatgarboneiddio mewn ffordd sy'n deg yn gymdeithasol. 

Gwnaethom ddatgan argyfwng hinsawdd i sbarduno ton o weithredu gartref ac yn rhyngwladol ac rydyn ni wrth ein bodd i weld eraill yn dilyn yn ein hôl troed o amgylch y byd, ond dychmygwch yr hyn y gallai dros 220 o wledydd a rhanbarthau eu cyflawni.