Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rydym yn cyhoeddi’r Canllawiau Arferion Gorau ar Fwyd a Maeth mewn Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn. Wrth inni fynd yn hŷn, mae’n bwysig ein bod yn parhau i fwyta deiet maethlon a chytbwys er mwyn cynnal ein hiechyd a’n lles. Mae’n bwysig bod anghenion deietegol pawb sy’n byw mewn cartref gofal i bobl hŷn yn cael eu diwallu drwy ddarparu bwyd o safon a digon i’w yfed, a hynny mewn amgylchedd gofalgar sy’n parchu urddas y preswylwyr.

Wrth inni heneiddio, gall gwahanol ffactorau effeithio ar faint o fwyd a fwytawn a faint o ddiod a yfwn gan gynyddu’r risg o ddiffyg maeth, sy’n gallu effeithio’n ddifrifol ar ein hiechyd. Gallai'r risg fod yn fwy i bobl hŷn sydd mewn cartref gofal, yn enwedig os oes ganddynt gyflyrau a allai effeithio ar faint o fwyd a diod y maent yn gallu eu cymryd.

Nod y canllawiau hyn yw helpu’r sector cartrefi gofal i wella maethlondeb y bwyd y maent yn ei weini ac i ddiwallu anghenion amrywiol y bobl hŷn sydd dan eu gofal. Bydd hyn yn helpu i sicrhau’r canlyniadau iechyd a lles gorau i bobl hŷn, o ran maeth. Ategir hyn gan gyfres helaeth o gynlluniau bwydlenni a syniadau am ryseitiau er mwyn hyrwyddo’r arferion gorau. Bydd y canllawiau hefyd yn helpu Arolygiaeth Gofal Cymru â’i gwaith arolygu ac yn ei galluogi i ffurfio barn ar sail gwybodaeth lawnach. 

Lluniwyd y canllawiau gan gydweithio’n agos â rhanddeiliaid allweddol a thrwy ymgynghori â’r sector yn ehangach. Bydd yn darparu adnodd ymarferol ac yn gwella safonau maeth mewn cartrefi gofal ledled Cymru.