Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Gweinidog Cyllid yn cyhoeddi cyllideb ddrafft heddiw a fydd yn darparu buddsoddiad sylweddol ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac yn creu uchelgais newydd i helpu i ddiogelu dyfodol ein planed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hon fydd Cyllideb gyntaf Llywodraeth Cymru ers i’r datganiad ar argyfwng yr hinsawdd gael ei gyhoeddi yng Nghymru. Bydd yn helpu i greu Cymru wyrddach, mwy cyfartal a mwy llewyrchus. 

Yn sgil cyhoeddi cylch gwario un flwyddyn llywodraeth y DU, mae’r cyllid ar gyfer Llywodraeth Cymru yn dal yn is, mewn termau real, na’r hyn ydoedd yn 2010.

Cyn i’r Gyllideb gael ei chyhoeddi, dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans: 

"Mae'r Gyllideb ddrafft hon yn gwireddu ein haddewid i bobl Cymru ac yn buddsoddi i ddiogelu dyfodol ein planed. 

"Er gwaethaf degawd o gyni, bydd ein cynlluniau yn golygu y byddwn wedi buddsoddi £37bn yn y GIG yng Nghymru ers dechrau tymor y Cynulliad hwn yn 2016. 

"Rydyn ni hefyd yn neilltuo swm sylweddol o arian newydd i arafu'r newid yn yr hinsawdd ac i sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus hollbwysig, fel ysgolion a llywodraeth leol, i gyd yn gweld cynnydd yn eu harian." 

“Mae ein haddewidion wedi llywio ein blaenoriaethau yn wyneb cyni didostur llywodraeth y DU sy’n golygu bod Cymru wedi bod ar ei cholled.”

Bydd Cyllideb ddrafft 2020-21, sy'n nodi’r cynlluniau gwario refeniw a chyfalaf am un flwyddyn, yn cael ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru heddiw.