Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ynghylch rhent sy’n cael ei dalu yn y sector rhentu preifat ar gyfer 2019.

Mae’r adroddiad yn cyflwyno cyfartaledd (cymedr), canolrif, chwartel isaf, a chwartel uchaf rhent misol a delir yng Nghymru fesul nifer yr ystafelloedd gwely. Cyflwynir y wybodaeth ar gyfer Cymru ac ar lefel awdurdod lleol. Casglwyd y data a ddefnyddir yn yr adroddiad yn y 12 mis hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2019. 

Mae’r wybodaeth yn y adroddiad wedi’i seilio ar wybodaeth a roddwyd i ni gan landlordiaid preifat ac asiantaethau gosod unigol. Mae’r wybodaeth wedi’i seilio ar ddata trafodion yn unig, lle mae rhent wedi’i dalu, ac nid yw’n cynnwys achosion lle gwyddom fod budd-dal tai yn cael ei dalu.

Mae’r ystadegau yn y adroddiad wedi’u seilio ar ddata heb eu haddasu i fod yn gynrychioladol o’r farchnad rhentu eiddo preifat yng Nghymru. Yn sgil amrywiadau yng nghyfansoddiad y sampl, nid oes modd cymharu’r cyfartaledd syml o ardal i ardal neu dros gyfnod o amser.

Prif bwyntiau

Dros y deuddeg mis rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2019 roedd canolrif y pris rhentu preifat ar gyfer eiddo ar draws Cymru yn amrywio rhwng £348 y mis am fflat un ystafell neu ystafell sengl heb fod yn annibynnol i £795 y mis am eiddo mwy, pedair ystafell wely gan gynnwys tai, byngalos a fflatiau.

Yn ystod 2019, roedd y rhan fwyaf o renti a gofnodwyd ar gyfer eiddo 2 a 3 ystafell wely, a chanolrif y rhent yn £525 a £575.

Ar lefel awdurdod lleol, roedd canolrif y rhent a gofnodwyd yn 2019 yn amrywio rhwng £260 y mis am ystafell sengl heb fod yn annibynnol yn Rhondda Cynon Taf a £1200 y mis am eiddo mawr pedair ystafell wely yng Nghaerdydd.

Adroddiadau

Rhenti yn y sector preifat, 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 991 KB

PDF
Saesneg yn unig
991 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.