Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi polisi rhenti pum mlynedd newydd ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru, a fydd yn helpu i gadw rhenti'n fforddiadwy tra'n caniatáu i landlordiaid cymdeithasol adeiladu mwy o dai fforddiadwy ar draws y wlad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O dan y polisi rhenti pum mlynedd sy'n cael ei gyhoeddi heddiw, a fydd yn dod i rym o Ebrill 2020:

  • gellir ymgodi rhenti cymdeithasol i swm sy'n cyfateb i uchafswm y mynegai prisiau defnyddwyr (CPI) + 1% am bum mlynedd ar yr amod bod y CPI yn aros o fewn amrediad rhagnodedig
  • bydd landlordiaid yn parhau'n gyfrifol am bennu eu rhenti o fewn ffiniau polisi rhenti Llywodraeth Cymru. Mewn ymateb i geisiadau gan landlordiaid cymdeithasol am fwy o hyblygrwydd, gallai rhent tenantiaid unigol gynyddu o CPI + 1% ynghyd â hyd at £2, ar yr amod bod rhenti eraill naill ai'n cael eu rhewi neu eu lleihau ac nad yw cynnydd cyffredinol y landlord ar gyfer ei holl stoc yn fwy na CPI + 1%
  • disgwylir i landlordiaid cymdeithasol gael eu polisïau eu hunain ar renti a thâl gwasanaeth a gwneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch sut y caiff rhenti eu cynyddu bob blwyddyn. Fel rhan o hyn, disgwylir i landlordiaid cymdeithasol weithio gyda'u tenantiaid i nodi pa ffactorau y dylid eu cynnwys wrth asesu fforddiadwyedd

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: 

Mae'n bwysig cydbwyso'r angen i denantiaid allu fforddio eu rhent, a sicrhau bod gan landlordiaid cymdeithasol y sicrwydd incwm rhenti sydd ei angen arnynt i adeiladu mwy o dai cymdeithasol. Rwyf wedi ystyried amrywiaeth o ffactorau ac wedi ystyried canfyddiadau nifer o adroddiadau annibynnol yn ofalus wrth wneud y penderfyniad hwn.

Rydyn ni'n gwybod bod ansawdd cartrefi pobl yn cael effaith wirioneddol ar eu hiechyd, eu lles a'u hansawdd bywyd. Wrth gydweithio â landlordiaid cymdeithasol Cymru, mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i adeiladu llawer mwy o dai cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r fargen rhenti hon yn taro cydbwysedd rhwng yr uchelgais hwnnw a'r angen i sicrhau bod pobl gyffredin yn gallu fforddio talu eu rhent.

Mae Llywodraeth Cymru'n cymryd camau i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru, gan gynnwys:

  • caniatáu i awdurdodau lleol uchelgeisiol gael grant tai i adeiladu mwy o dai cyngor yn ddi-oed ac ar raddfa fawr
  • sicrhau bod awdurdodau cynllunio lleol yn manteisio ar bob cyfle i greu datblygiadau tai yng Nghymru sy'n cynnwys o leiaf 50% o dai fforddiadwy