Nifer y staff yn y sector addysg uwch ar gyfer Medi 2018 i Awst 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Staff mewn sefydliadau addysg uwch
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Parhaodd nifer y staff ym mhrifysgolion Cymru ar lefel debyg yn 2018/19, sef 20,875.
- Prifysgol Caerdydd oedd yn cyflogi’r nifer mwyaf o staff (6,805), y cyflogwr mwyaf nesaf oedd Prifysgol Abertawe (3,820).
- Prifysgol Glyndŵr oedd y brifysgol leiaf o ran nifer y staff. Fe gyflogodd 480 yn 2018/19.
- Roedd gan ychydig o dan hanner yr holl aelodau staff (49.2%) gontractau academaidd.
- Roedd ychydig yn llai na dau o bob tri aelod o staff ar gontractau academaidd yn llawn amser, y ffigwr ar gyfer staff ar gontractau nad ydynt yn rhai academaidd yw ychydig dros ddau o bob tri.
- O’r rheini nad oedd â chontractau academaidd, roedd gan 4,065 alwedigaethau proffesiynol neu dechnegol. Roedd gan 3,815 alwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol ac roedd gan 920 ‘alwedigaethau elfennol’.
- Menywod oedd yn llenwi 55.0% o’r holl swyddi. Fodd bynnag, 47.2% ohonynt oedd yn cyflawni rolau academaidd. Roedd ychydig dros ddau o bob tri o’r aelodau staff rhan-amser yn fenywod.
- Dywedodd 11.4% o staff ar gontract academaidd eu bod yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. 51.1% o’r rheiny a ddwedodd hynny oedd yn gwneud mewn gwirionedd.
Gwybodaeth bellach
Mae’n seiliedig ar ystadegau a gynhyrchwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Mae pob cymhariaeth ariannol â blynyddoedd blaenorol yn defnyddio ffigurau sy’n cael eu hail-nodi yn y datganiadau ariannol mwyaf diweddar sydd ar gael.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gwefan StatsCymru
Gwefan Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
Gwefan Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.