Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, wedi ymateb i ystadegau perfformiad diweddaraf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y GIG) ac wedi cyhoeddi £10m ychwanegol, ar ben y £30m a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, i wella amseroedd aros adrannau argyfwng.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

“Fe hoffwn ddiolch i staff rheng flaen am eu gwaith caled a'u sgiliau yn ystod mis Rhagfyr heriol iawn. Fis diwethaf gwelwyd y galw uchaf erioed ar y gwasanaeth ambiwlans, y presenoldeb uchaf mewn adrannau argyfwng ar gyfer unrhyw fis Rhagfyr a'r niferoedd uchaf erioed o dderbyniadau brys ar gyfer unigolion dros 75 oed.

Roedd lleihad mewn oedi wrth drosglwyddo gofal, a hynny i'w groesawu, ond mae gormod o gleifion yn treulio cyfnodau hir mewn adrannau argyfwng yn aros am wely yn yr ysbyty. Rydym eisiau i Fyrddau Iechyd weithio gyda phartneriaid i wella llif cleifion drwy system yr ysbyty ac allan i'r gymuned, ac rwyf wedi sicrhau bod £10m ychwanegol ar gael i gefnogi gwelliant yn y maes hwn.

"Roedd y gwasanaeth ambiwlans yn wynebu pwysau sylweddol, gyda chyfartaledd y 'galwadau coch' dyddiol yn cynyddu i'r uchaf erioed ac yn pasio 100 am y tro cyntaf. Rydym yn siomedig na lwyddwyd i gyrraedd y targed er bod mwy o'r cleifion yn y categori coch wedi cael ymateb o fewn yr amser targed nag ym mis Rhagfyr y llynedd.

"Mae'r galw ar adrannau argyfwng hefyd yn effeithio ar ddarpariaeth triniaethau a gynlluniwyd mewn ysbytai. Mae'r sefyllfa'n waeth oherwydd bod meddygon yn lleihau eu horiau o ganlyniad i newidiadau i reolau treth pensiwn gan Lywodraeth y DU. Erbyn diwedd mis Rhagfyr roedd hyn wedi arwain at golli tua 3,200 o sesiynau, gan effeithio ar bron i 27,000 o gleifion. Rwyf wedi galw ar Lywodraeth y DU i ddatrys y mater hwn ar fyrder.

"Mae staff gweithgar, ymroddedig ein GIG wedi bod yn gweithio'n ddiflino drwy gydol y flwyddyn ac mae'n amlwg mai ond cynyddu fydd y galw. Oherwydd hyn mae angen inni drawsnewid y modd yr ydym yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol. Yn ogystal â'r mesurau tymor byr yr wyf wedi'u cyhoeddi heddiw, rydym yn buddsoddi £100m i ddatblygu modelau gofal newydd, i greu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cynaliadwy ar gyfer y dyfodol."