Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roeddwn yn bresennol yng nghyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Materion Gwledig (IMG) ar 13 Ionawr.

Dyma’r cyfarfod cyntaf ers yr Etholiad Cyffredinol ac ers i Fil yr UE (Cytundeb Ymadael) ddechrau ar ei daith drwy Senedd y DU. 

Roedd y cyfarfod hwn yn canolbwyntio ar ein partneriaeth fasnachu gyda’r UE a gweddill y byd yn y dyfodol, ac ar y rôl bwysig sydd gan y Gweinyddiaethau Datganoledig yn y trafodaethau hynny. Rwy’n arbennig o bryderus am y ffaith bod yr amserlen ar gyfer y trafodaethau gyda’r UE wedi’i chywasgu i’r fath raddau. Buom hefyd yn trafod y gwaith sydd angen ei wneud cyn i’r cyfnod pontio ddod i ben ym mis Rhagfyr 2020. Rhoddais gadarnhad fy mod yn dal yn ymrwymedig i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried.  

Mae communiqué am y cyfarfod hwn i’w weld ar wefan Llywodraeth y DU. https://www.gov.uk/government/publications/communique-from-the-inter-ministerial-group-for-environment-food-and-rural-affairs.