Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Cymru’n gwneud popeth y gall i sicrhau bod ei pherthynas gref â’r Almaen yn parhau, gan fod ganddynt gysylltiadau masnachol gwerth mwy na £3bn, wrth i gyfnod newydd o drafodaeth â’r UE fynd yn ei flaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bu Dr Wittig ym Mae Caerdydd, yn cyfarfod â’r Gweinidog a’r Prif Weinidog Mark Drakeford, cafodd ei dywys o gwmpas Prifysgol Caerdydd a bu hefyd yn trafod masnach gydag aelodau o Lywodraeth Cymru. Wedyn aeth i dderbyniad yng nghastell Caerdydd ar gyfer y diaspora Almeinig.

Y diwrnod canlynol, ymwelodd y Llysgennad â busnesau Almeinig yn y Gogledd, yn cynnwys Innogy ym Mostyn a’r ffatri Airbus ym Mrychdyn. 

Yr Almaen yw un o brif bartneriaid masnachol Cymru. 

Yn 2018 aeth ychydig dros 18 y cant o holl nwyddau Cymru a allforiwyd y tu allan i’r DU i’r Almaen, nwyddau gwerth cyfanswm o dros £3 biliwn.

Mae’r Almaen hefyd yn cyfrannu’n gryf at y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Mae’r nifer o ymwelwyr o’r Almaen i Gymru yn fwy nag o unrhyw wlad arall, ar wahân i Iwerddon – sef cyfanswm blynyddol o 87,000 o ymwelwyr, yn ôl ffigurau diweddar.

Mae hyn y cyfrif am wyth y cant o dwristiaeth ryngwladol, ac am tua saith y cant o’r holl wariant gan dwristiaid.

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol:

“Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â Dr Wittig, ac o gael y cyfle i drafod y berthynas rhwng yr Almaen a Chymru heddiw ac yn y dyfodol. 

“Tu allan i’r DU, yr Almaen yw ein partner masnachol pwysicaf, ac mae trafodaethau megis y rhain yn hollbwysig wrth i ni edrych ar ffyrdd i ni gydweithio ar wella’r cysylltiadau sydd rhyngom.”

“Wrth i’r DU adael yr UE, ein safbwynt ni yw bod Cymru yn dal i fod yn agored i fusnes gyda’i phartneriaid Ewropeaidd. 

“Rydym yn awyddus i wneud cymaint ag y gallwn i sicrhau bod y cysylltiadau economaidd, diwylliannol a masnachol cryf rydym eisoes wedi eu creu gyda nifer o wledydd yn yr UE yn dal i ffynnu. 

“Fel yr egluron ni yn ein Strategaeth Ryngwladol yn ddiweddar, rydym yn gweithio’n galed i sicrhau nad ydym yn colli’r cysylltiadau hanfodol hynny rydym wedi eu sefydlu gyda phartneriaid Ewropeaidd, megis yr Almaen.”

“Mae gennym sylfaen hynod o gref o fusnesau Almeinig yng Nghymru sy’n cyflogi gweithwyr Cymreig. Roeddwn yn falch iawn bod Dr Wittig wedi cael cyfle i weld y gwaith mae Innogy yn ei wneud ar y prosiect fferm wynt alltraeth Gwynt y Môr yn eu canolfan yn Sir y Fflint ym mhorthladd Mostyn.”

Mae Gwynt y Môr yn un o’r ffermydd gwynt alltraeth masnachol mwyaf yn y byd, gyda’r gallu gosod i gynhyrchu 576 o megawatiau. 

Mae cyfanswm o 160 tyrbin gwynt yn cynhyrchu digon o drydan i gyflenwi tua 400,000 o aelwydydd yn flynyddol ag ynni adnewyddadwy. 

Dywedodd Dr Wittig:

“Hoffwn ddiolch yn fawr i Lywodraeth Cymru am y gwahoddiad caredig. 

“Gall Cymru a’r Almaen ymffrostio yn y clymau agos sydd gennym eisoes mewn llawer o feysydd – busnes, diwylliant, masnach a phobl – clymau y gallwn ymddiried ynddynt ac y gallwn eu hatgyfnerthu.

“Dylai’r ffaith hon ein hannog i oresgyn ansicrwydd y tair blynedd diwethaf – gallwn fod yn feiddgar ac yn uchelgeisiol er mwyn llunio perthynas a fydd yn parhau yn y dyfodol. 

“Yr Almaen yw’r gyrchfan bwysicaf ar gyfer allforion o Gymru – gyda bron i un rhan o bump o allforion Cymreig yn mynd i’r Almaen, tra bod allforion o’r Almaen i Gymru yn werth £3.2 biliwn yn 2018.

“Gallaf weld mwy o gyfleoedd mewn llawer o sectorau – yn cynnwys ynni adnewyddadwy, cysylltiadau academaidd agosach fyth, ymchwil ar ddiwydiannau’r dyfodol a phrosiectau seilwaith ar y cyd.”