Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr. Frank Atherton am y Coronafeirws (COVID-19).

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Er bod yr achosion o’r coronafeirws yn Tsieina yn cynyddu, ynghyd â nifer y gwledydd sydd wedi’u heffeithio oherwydd bod y feirws wedi’i gludo yno, cymedrol yw’r risg i’r cyhoedd o hyd. Hyd yma yng Nghymru rydym wedi darparu gwasanaeth asesu a phrofi i fwy na 200 o bobl ac roedd canlyniad pob un ohonynt yn negatif ar gyfer coronafeirws. 

Er hynny, mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru yn gwneud yn siŵr, pe bai’r feirws COVID-19 yn lledaenu yng Nghymru, bod ein cynlluniau ymateb yn gadarn ac yn realistig. I gefnogi hyn, rydym wedi bod yn gweithio gyda phrif weithredwr GIG Cymru i gynnull Grŵp Cynllunio ac Ymateb Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer COVID-19. 

Cylch gwaith y grŵp hwn fydd cydlynu’n strategol a darparu cymorth i’r GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru drwy gydol camau’r haint coronafeirws (COVID-19). Bydd yn rhoi’r cyfle i bartneriaid rannu gwybodaeth yn genedlaethol, gan gynnwys yr asesiad risg diweddaraf, yn ogystal ag ymchwilio i bryderon o fewn y sector a mynd i’r afael â hwy, a phennu mesurau wrth gefn priodol wrth i’r sefyllfa ddatblygu. 

Mae’r cyngor ar gyfer teithwyr yn parhau’r un fath. Dylai pob teithiwr sy’n datblygu symptomau tebyg i’r ffliw, waeth pa mor ysgafn ydynt (er enghraifft twymyn, peswch neu drafferth anadlu) o fewn 14 diwrnod i ddychwelyd o dir mawr Tsieina, Gwlad Thai, Japan, Gweriniaeth Korea, Hong Kong, Taiwan, Singapôr, Malaysia neu Macau, aros gartref ac ynysu ei hunain. Dylent ffonio Galw Iechyd Cymru neu GIG 111 os yw ar gael yn eu hardal. 

Y neges allweddol yw peidio â mynd i’ch meddygfa, eich fferyllfa leol na’ch ysbyty i gael cyngor, ond yn hytrach ffonio am gymorth fel y nodir uchod. Mae’r cyngor uchod ychydig yn wahanol ar gyfer pobl sydd wedi teithio o Wuhan a thalaith Hubei. Dylai’r unigolion hynny aros gartref ac ynysu eu hunain am 14 diwrnod, hyd yn oed os nad oes ganddynt symptomau. Mae hynny oherwydd bod risg uwch yn deillio o’r ardal honno. 

Gwybodaeth am deithio

Gwybodaeth am deithio i Tsieina ar GOV.UK.

Rhagor o wybodaeth am y coronafeirws

Sut mae’r coronafeirws yn cael ei drosglwyddo a  ffeithiau eraill am coronafeirws 2019 ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Sut mae’r ymateb i’r coronafeirws yn cael ei reoli ar draws y DU ar GOV.UK.