Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n bwysig bod pawb yn gofalu am eu lles personol. Gallwch gael cymorth a chyngor gan y sefydliadau canlynol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Llinell wrando a chyngor cymunedol

Llinell gymorth iechyd meddwl benodol ar gyfer Cymru yw'r llinell wrando a chyngor cymunedol (CALL). Maent yn darparu gwasanaeth gwrando a chefnogaeth emosiynol gyfrinachol.

Ffoniwch y llinell gymorth ar 0800 132737

Gallwch hefyd anfon neges destun ' help ' i 81066, neu ewch i'r llinell cyngor a gwrando gymunedol am fwy o wybodaeth.

Fishermen’s Mission

Mae’r Fishermen’s Mission yn darparu cymorth mewn argyfwng a gofal ymarferol i bysgotwyr a'u teuluoedd. Gall ddarparu grantiau brys i bobl mewn angen, a’u cysylltu â chyrff eraill sy’n darparu grantiau.

Ffoniwch 01489 566910 neu ewch i wefan y Fishermen’s Mission i gael rhagor o wybodaeth.

Mae gan yr elusen 2 swyddog porthladd y gellir cysylltu â hwy i gael cymorth a chefnogaeth:

Dewis Cymru

Mae gan Dewis Cymru wybodaeth a chyngor ar faterion lles. Ar gael i bobl ledled Cymru, mae ganddo fanylion cyswllt sefydliadau a gwasanaethau lleol sy'n gallu helpu gyda materion lles.

Ewch i dewis.cymru

Mind Cymru

Mae Mind Cymru yn darparu cyngor a chymorth i unrhyw un sy'n profi problem iechyd meddwl. Mae gwybodaeth ar gael am ble i gael help, meddyginiaeth a thriniaethau amgen.

Gallwch ffonio Mind Cymru rhwng 9am a 6pm, ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc):

  • 0300 123 3393

Gallwch hefyd anfon neges destun 86463, neu e-bostiwch info@mind.org.uk.
Ewch i Mind Cymru i gael gwybod mwy.

Samariaid

Gallwch gysylltu â'r Samariaid 24 awr y dydd, bob dydd.

Ffoniwch eu llinell gymorth am ddim ar 116123 i siarad â rhywun.