Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AC, Gweinidog Y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr wythnos ddiwethaf, ymwelais ag Ottawa, Montréal, San Francisco a Los Angeles. Yn dilyn cyhoeddi Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru yn ddiweddar, roedd yr ymweliad hwn yn gyfle i dynnu sylw at Gymru fel gwlad sy'n adnabyddus am ei chreadigrwydd, ei harbenigedd ym maes technoleg a'i hymrwymiad i sicrhau cynaliadwyedd. Y nod oedd hybu'r gwaith rhagorol yr ydym eisoes yn ei wneud yng Nghymru, meithrin cysylltiadau newydd gyda rhwydwaith diaspora’r Cymry, a denu rhagor o fusnes i Gymru.

Mae cysylltiadau cryf wedi bodoli rhwng Cymru a Gogledd America ers tro. Mae'r cysylltiadau hynny i'w gweld ym maes busnes, diwylliant, iaith ac addysg. Wrth i'n perthynas â'r Undeb Ewropeaidd symud i gyfnod newydd, mae'n bwysig cynnal cysylltiadau busnes a masnach agos gyda'n marchnadoedd pwysicaf. Yr Unol Daleithiau yw mewnfuddsoddwr mwyaf Cymru, gyda thua 320 o gwmnïau dan berchnogaeth yr UDA wedi'u lleoli yng Nghymru sy’n cyflogi bron i 50,000 o bobl. Mae Cymru hefyd yn gartref i 40 o gwmnïau dan berchnogaeth Canada. 

Yn Ottawa, cyfarfûm â rai o arbenigwyr technoleg mwyaf blaenllaw y ddinas, gan gynnwys Syr Terry Matthews. Roedd hwn yn gyfle i ddatblygu dealltwriaeth o'r ecosystem dechnolegol yn Ottawa yn ogystal ag arddangos arbenigedd o safon fyd-eang Cymru yn y sector technoleg, yn arbennig ym maes seiberddiogelwch. Roedd yn bleser gennyf gyhoeddi cymorth gan Lywodraeth Cymru i gwmnïau seiberddiogelwch newydd sy'n datblygu o Sefydliad Alacrity yng Nghasnewydd.

Cyfarfûm â René Arsenault AS, yr Ysgrifennydd Seneddol dros Ddatblygu Economaidd ac Ieithoedd Swyddogol yng Nghanada. Roedd ein trafodaethau'n canolbwyntio ar ein huchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn ogystal â safbwynt Canada ar ddwyieithrwydd. Cyfarfûm hefyd â John McKay, Cadeirydd Cymdeithas Ryngseneddol Canada a’r Deyrnas Unedig. Roedd ganddo ddiddordeb mewn clywed am effaith Brexit ar y strwythur datganoledig yn y DU.

Ym Montréal, cyfarfûm â fy swyddog cyfatebol, y Gweinidog La Francophonie a Chysylltiadau Rhyngwladol, a llofnodais ddatganiad o fwriad gyda Llywodraeth Québec. Mae'r berthynas rhwng Cymru a Québec wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf. Rhoddwyd hwb i’r berthynas honno pan sefydlwyd swyddfa Llywodraeth Cymru ym Montréal yn 2018. Mae'r datganiad yn cydnabod pwysigrwydd y berthynas honno yn ogystal â’n penderfyniad cyffredin i gynyddu ein gweithgareddau a meithrin cysylltiadau cydweithredol newydd. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan alwad ar y cyd am brosiectau sy'n gysylltiedig â themâu'r strategaeth ryngwladol. 

Mae'r diwydiant awyrofod yn sector pwysig iawn i Gymru a Québec. Cyfarfûm ag Aéro Montréal i annog cydweithrediad yn y sector ac i ddatblygu'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd gydag Awyrofod Cymru yn 2018. Bydd y momentwm hwn yn parhau wrth i gynrychiolwyr o Gymru deithio i fforwm yn ymwneud ag arloesi ym maes awyrofod yn y gwanwyn.

O Ganada, teithiais i San Francisco i fynychu cynhadledd RSA, un o'r cynadleddau blynyddol mwyaf ar gyfer arbenigwyr ym maes seiberddiogelwch o bob rhan o’r byd. Cyfarfûm â nifer o fuddsoddwyr presennol a darpar fuddsoddwyr yn y gynhadledd, gan gynnwys AT&T ac Oracle. Cyfarfûm hefyd â Lynwen Brennan, Is-lywydd Gweithredol a Rheolwr Cyffredinol Lucasfilm, i drafod enw da Cymru yn rhyngwladol fel canolfan ragoriaeth ar gyfer cynhyrchu dramâu teledu o safon. Euthum hefyd i Dderbyniad Dydd Gŵyl Dewi Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn Los Angeles i hyrwyddo cryfderau creadigol Cymru. 

Mae diaspora’r Cymry ledled y byd yn gymorth gwerthfawr wrth godi proffil Cymru a hyrwyddo ein cenedl groesawgar. Cynhaliais dderbyniadau yn Ottawa ac yn San Francisco a chyfarfûm â chysylltiadau busnes allweddol o Gymru drwy gydol fy ymweliad, i ddiolch iddynt am y gwaith y maent yn ei wneud. 

Mae datblygu'r cysylltiadau cryf gyda Gogledd America yn rhan allweddol o fy Strategaeth Ryngwladol. Nod fy ymweliad oedd cyfnerthu'r cysylltiadau agos sy'n bodoli eisoes gyda Chanada a'r Unol Daleithiau. Rwy'n benderfynol y bydd y sgyrsiau a gawsom yn ystod yr ymweliad yn ein galluogi i gryfhau ein perthynas gyda'r ddwy wlad a sicrhau manteision diriaethol i Gymru.