Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi cadarnhau ail achos o’r coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru.

Byddwn yn parhau i nodi achosion o’r feirws, ynysu pobl, ac olrhain unrhyw un sydd wedi bod mewn cysylltiad â nhw. Bydd y camau hyn yn atal y feirws rhag cydio yng Nghymru am gyfnod mor hir ag sy’n ymarferol bosibl. 

Fel yr amlinellir yng Nghynllun Gweithredu'r DU, os bydd y feirws yn cydio bydd rhaid inni ystyried camau pellach i leihau pa mor gyflym a pha mor eang y bydd yn lledaenu. Bydd yr union ymateb yn cael ei deilwra yn unol â natur, graddfa a lleoliad y bygythiad ac yn cael ei seilio ar gyngor arbenigwyr.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu iechyd pobl Cymru.

Byddaf yn rhoi datganiad llafar i’r Siambr ddydd Mawrth.