Neidio i'r prif gynnwy
Sheri o Abertawe

Rheolwr PR o Abertawe yn derbyn grant ar gyfer cwrs Meistr rhan-amser er mwyn helpu i feithrin gyrfa

Mae Sheri Hall, 29 oed o Abertawe, yn rhoi hwb i’w gyrfa trwy astudio cwrs rhan-amser Gradd Meistr Gweithredol mewn Gweinyddiaeth Fusnes (MBA) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Wrth weithio fel swyddog cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus i gwmni Confused.com, roedd Sheri yn ystyried dilyn cwrs MBA er mwyn meithrin ei dealltwriaeth o’r busnes a hybu ei gyrfa broffesiynol ymhellach.

Meddai Sheri: 

“Doeddwn i ddim yn siŵr a allwn i fforddio’r cwrs, a ddim am ychwanegu mwy at fy nyledion myfyriwr, ond roeddwn i’n credu mai nawr oedd yr amser gorau i wneud cais.”

Ers hynny, mae Sheri wedi cwblhau modiwl cyntaf ei chwrs Meistr tair blynedd y mae’n ei astudio’n rhan-amser wrth weithio’n llawn amser gyda Confused.com.

Meddai Sheri:

“Roeddwn i wrth fy modd pan gafodd fy nghais ei dderbyn, ac yn hapusach fyth pan wnaeth Confused.com ymrwymo i dalu hanner ffioedd y cwrs a gadael i mi astudio law yn llaw â’m swydd bresennol fel Rheolwr PR a Chyfathrebu Corfforaethol.

Gwnes gais am arian i dalu am weddill y cwrs, a llwyddo i dderbyn grant llawn trwy becyn cyllid myfyrwyr Llywodraeth Cymru. Allwn ni ddim credu’r ffaith fy mod i’n gallu dilyn cwrs Meistr heb orfod talu’r un geiniog fy hun. Heb y grant llawn, byddwn i wedi gorfod ystyried yn ofalus a allen i wneud y cwrs, gan y byddai’n anoddach talu amdano i gyd fy hun.”

Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i Brifysgol

O fis Medi 2018 bydd israddedigion cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf (llawn-amser a rhan-amser) yn derbyn cymorth cynhwysfawr tuag at gostau byw bob dydd yn ystod y tymor, lle bynnag yn y DU y dewisant astudio