Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi cadarnhau pedwar achos pellach o’r coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru heddiw a ddoe:

https://llyw.cymru/prif-swyddog-meddygol-cymru-yn-cadarnhau-dau-achos-newydd-o-goronafeirws-covid-19

https://gov.wales/chief-medical-officer-wales-confirms-two-new-cases-coronavirus-covid-19-0

Daw hyn â'r cyfanswm achosion i chwech. 

Byddwn yn parhau i nodi achosion o’r feirws, ynysu pobl, ac olrhain unrhyw un sydd wedi bod mewn cysylltiad â nhw. Bydd y camau hyn yn atal y feirws rhag cydio yng Nghymru am gyfnod mor hir ag sy’n ymarferol bosibl.   

Rwyf wedi awdurdodi cyllid i ddarparu cyfarpar diogelu personol i bob meddygfa o heddiw ymlaen er mwyn diogelu staff rheng flaen.

Byddwn yn ystyried mesurau pellach a phob cam angenrheidiol i ddiogelu iechyd pobl Cymru.

Byddaf yn rhoi datganiad llafar i’r Siambr ddydd Mawrth.