Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r datganiad hwn i hysbysu aelodau y bydd Mr John Lloyd Jones yn parhau i fod yn Gadeirydd dros dro Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) tan fis Tachwedd 2020. Roedd tymor Mr Lloyd Jones i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth 2020.

Yn dilyn yr ymarfer penodiadau cyhoeddus yn ddiweddar, rwyf wedi penderfynu peidio â phenodi cadeirydd tymor hir ar hyn o bryd. Rwy’n ymwybodol iawn o heriau newid yn yr hinsawdd, a hoffwn i roi rhagor o bwyslais ar yr angen i benderfyniadau ynghylch seilwaith gyd-fynd yn agosach â’n hamcanion ni ar gyfer datgarboneiddio. Am y rheswm hwnnw, rwy’n bwriadu ailhysbysebu a gwneud yr agwedd honno ar y swydd yn fwy amlwg.

Rwy’n ddiolchgar iawn i Mr Lloyd Jones am gytuno i estyn ei dymor fel Cadeirydd dros dro, a fydd yn ei alluogi i oruchwylio’r gwaith o gwblhau ail adroddiad blynyddol y Comisiwn. Erbyn yr adeg honno bydd yr ymarfer cyhoeddus i benodi cadeirydd parhaol wedi cael ei gwblhau.  

Cyhoeddodd CSCC ei adroddiad cyntaf ym mis Tachwedd 2019. Amlinellodd yr adroddiad ei flaenoriaethau ar gyfer ymchwilio yn ystod y flwyddyn ganlynol. Ar hyn o bryd mae’r Comisiwn yn trafod â rhanddeiliaid ac yn galw am dystiolaeth ynglŷn â deg mater allweddol sy’n gysylltiedig â chyfathrebu digidol, ynni a thrafnidiaeth.