Neidio i'r prif gynnwy

Mae Mark Drakeford y Prif Weinidog wedi galw ar fusnesau yng Nghymru i greu cyflenwad newydd o Gymru o gyfarpar diogelu personol (PPE) i gefnogi staff y GIG a staff gofal cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae nifer o gwmnïau a phrifysgolion Cymru yn gweithio’n uniongyrchol ar roi sylw i heriau penodol yn ymwneud â’r pandemmig coronafeirws.

Mae’r Prif Weinidog heddiw’n galw ar y rhai sy’n barod ac yn abl i gamu ymlaen i greu cadwyn cyflenwi newydd yng Nghymru ar gyfer PPE.

Mae mwy na 5 miliwn o eitemau PPE, gan gynnwys cyfarpar llygaid, menyg, ffedogau a masgiau wyneb wedi’u darparu i staff iechyd a gofal rheng flaen o stociau y pandemig yn yr wythnosau diwethaf – llawer mwy na’r cyflenwadau arferol sydd ar gael i’r GIG.

Mae cyflenwadau wedi dod i feddygfeydd meddygon teulu, fferyllfeydd ac i awdurdodau lleol i’w hanfon at bob cartref gofal yng Nghymru.

Ddoe, cyhoeddwyd canllawiau newydd yn y DU, sy’n symleiddio pryd y dylai staff iechyd a gofal cymdeithasol ddefnyddio’r PPE. Bydd y canllawiau newydd yn cynyddu’r galw am PPE ledled y DU.

Meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae hwn yn amser na welwyd mo’i debyg - fel cenedl dylem ymateb i’r heriau enfawr a ddaw o ganlyniad i’r pandemig coronafeirws.

“Dwi am ddiolch i’r busnesau a’r gweithgynhyrchwyr niferus yng Nghymru sydd eisoses wedi cynnig helpu i gynhyrchu PPE ac offer eraill. Rydym yn ymateb mor gyflym â phosibl i’r cynigion sydd gennym eisoes, ond rydym eisiau ac angen mwy.

“Dwi’n galw ar gwmnïau i helpu ein GIG ac i gynhyrchu’r offer PPE y mae cymaint o alw amdano ac a fydd yn hollbwysig i staff y rheng flaen.

"Mae gan fusnesau yng Nghymru ran bwysig i'w chwarae o ran darparu'r cynhyrchion sydd eu hangen."

Mae’r Bathdy Brenhinol wedi addasu eu gwaith i gynhyrchu feisorau diogelwch fydd ar gael i GIG Cymru fel blaenoriaeth, ac eraill wrth i’r cynhyrchu gynyddu.

Mae Cwmni Merlin Circuit Technology ym Mhenarlâg, rhan o’r Grŵp Merlin PCB, yn helpu’r ymdrech genedlaethol trwy gynhyrchu offer anadlu ac offer CPAP yn eu canolfan yn y gogledd.

Dywedodd cyfarwyddwr Merlin Circuit Technology, Mike Potter:

“Rydyn ni’n falch iawn o fedru cynnig ein harbenigedd technegol a’n profiad o weithgynhyrchu i helpu i lunio a chynhyrchu byrddau cylched printiedig ar raddfa fawr i helpu gyda’r ymgais i guro’r coronafeirws.

“Er mwyn i hyn fod yn bosib mae angen cymorth y gadwyn gyflenwi gyfan, ac rydyn ni wedi cael ymateb anhygoel. Rhwng yr ymdrechion hynny a gwaith ein staff byddwn yn gwneud ein gorau glas i barhau i gyflenwi nwyddau i frwydro yn erbyn y feirws.

“Rydyn ni’n falch iawn o bawb sy’n gweithio ym Merlin a’u hymrwymiad i barhau i weithio drwy gydol y cyfnod pryderus hwn. Maen nhw’n gweithio’n ddi-flino i gynhyrchu’r byrddau cylched mor gyflym â phosib er mwyn helpu i gyflenwi miloedd o beiriannau anadlu, cyfarpar CPAP a systemau monitro ocsigen – a fydd yn llythrennol yn achub bywydau pobl.”

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gofyn i’r diwydiant helpu gyda’r ymdrechion i herio’r feirws drwy ddod o hyd i atebion newydd mewn meysydd fel rheoli heintiau, hylifau diheintio a dyfeisiau meddygol, yn ogystal â datblygu dulliau newydd i fynd i’r afael â heriau ynysu cymdeithasol ac unigrwydd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates:

“Mae’r ymateb a’r cynigion o gymorth gan gwmnïau wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae’n hanfodol bod mwy o fusnesau ac unigolion sy’n fodlon helpu wneud hynny os yn bosib.

“Mae galwad y Prif Weinidog yn un yr wyf am weld cwmnïau o Gymru yn ymateb iddi ac yn gwneud popeth y gallant i gefnogi ein cenedl mewn cyfnod o argyfwng.

“Mae angen i ni fod yn fwy arloesol nag erioed er mwyn bod ar flaen y gad yn datblygu y cynnyrch all wneud gymaint o wahaniaeth.

“Mae gan Gymru dalent aruthrol a phobl â sgiliau anhygoel. Drwy gyfuno hynny gyda’r byd academaidd a Llywodraeth Cymru, gallwn ni i gyd chwarae ein rhan yn llunio’r atebion gorau posib i guro’r feirws hwn."

Gall y busnesau a’r unigolion sydd am helpu ymweld â gwefan Busnes Cymru am ragor o wybodaeth a chyngor. Mae hwn yn cynnwys tudalen benodol ar PPE.