Neidio i'r prif gynnwy

Cylch Gorchwyl Grŵp Cynghori ar Faterion Moesol a Moesegol COVID-19 Cymru

​​​​​​​Diben y grŵp

  1. Mae angen Grŵp Cynghori ar Faterion Moesol a Moesegol COVID-19 (CMEAG-Cymru) er mwyn casglu a chydlynu materion yn ymwneud ag ystyriaethau moesol, moesegol, diwylliannol a ffydd, a bod yn ffynhonnell o gyngor i wasanaethau cyhoeddus ar y materion sy’n deillio o ymateb brys y maes iechyd a gofal cymdeithasol i bandemig COVID-19.  
  1. Bydd CMEAG-Cymru yn cynnig ymgyngoriadau a chyngor i wasanaethau cyhoeddus Cymru ar ystyriaethau moesol, moesegol, diwylliannol a ffydd sy’n ymwneud â darparu gofal iechyd a chymdeithasol, o ganlyniad i ganllawiau o amryw o ffynonellau. Mae’r rhain yn cynnwys cyngor annibynnol grŵp MEAG y DU i lywodraeth y DU a’r Prif Swyddogion Meddygol, NICE, y Colegau Brenhinol, cyrff proffesiynol ac unrhyw faterion perthnasol y cyfeirir ato.
  1. Defnyddir y cyngor hwn i hysbysu rheoli materion yn ymwneud ag iechyd yn deg ac yn gyfiawn ar draws Cymru, gan gynnwys COVID-19 a ffliw pandemig fel sy’n briodol.

Cwmpas, cyfrifoldebau a Llywodraethu

  1. Bydd CMEAG-Cymru yn cael ei noddi ar y cyd gan y Gweinidog Iechyd, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a bydd yn adrodd i’r Prif Swyddog Meddygol a’r Gweinidogion sy’n ei noddi.
  1. Bydd CMEAG-Cymru yn rhoi cyngor annibynnol, amserol ac wedi’i gydlynu ynglŷn â materion moesol, moesegol a ffydd sy’n ymwneud â rhoi cyngor o amrywiol ffynonellau ar waith yng Nghymru mewn ymateb i COVID-19, fel yn (2) uchod, ac mewn ymateb i gwestiynau a materion eraill perthnasol a gyflwynwyd iddo. 
  1. Bydd y Cadeirydd yn cael ei Gadeirio gan Iechyd ond gyda swyddogion yn mynychu o faes portffolio Gweinidogol arall lle mae'r agenda'n berthnasol.
  1. Gellir sefydlu is-grwpiau i ystyried materion diffiniedig gydag aelodau ychwanegol sy’n briodol i’r testun.
  1. Bydd dogfennau a gytunwyd yn cael eu cyhoeddi.
     
  2. Bydd yr aelodau wedi llofnodi datganiad i dynnu sylw’r ysgrifenyddiaeth at unrhyw wrthdaro buddiannau neu bryderon sydd ganddynt, ac yn cytuno i gadw at gyfrinachedd o ran gwybodaeth a rennir at ddiben trafodaethau CMEAG-Cymru.
  1. Yn y tymor hir, bydd CMEAG-Cymru yn cael ei adolygu ac os credir ei fod yn effeithiol yn ystod cyfnod yr argyfwng, gellir ei ddatblygu i roi cyngor rhagweithiol ar faterion sy’n berthnasol i gynllunio ar gyfer parodrwydd mewn argyfwng yn fwy cyffredinol.

Aelodaeth

  1. Bydd CMEAG-Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o gymunedau ar draws Cymru sydd wedi’u heffeithio gan Bandemig COVID-19, gan gynnwys y rhai sydd mewn perygl o ddioddef effaith anghymesur yn sgil COVID-19; arbenigedd angenrheidiol, gan gynnwys clinigol; iechyd y cyhoedd; academaidd; cyfreithiol; gwyddorau cymdeithasol ac ymddygiadol; cyfryngau a chyfathrebu. Gall gyfethol aelodau ychwanegol ac arbenigedd fel sydd ei angen ar gyfer materion penodol.   
  1. Ni fydd yr aelodau yn cael eu talu am eu hamser. Cynhelir y cyfarfodydd gan ddefnyddio technoleg ar gyfer cynnal cyfarfodydd rhithwir.

Cyfarfodydd

  1. Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn cael ei harwain gan Lywodraeth Cymru a chynhelir cyfarfodydd yn rheolaidd yn ystod cyfnod yr ymateb i COVID-19.
  1. Gofynnir i CMEAG-Cymru ymgynnull yn brydlon a rhoi cyngor ar ystyriaethau moesol, moesegol, diwylliannol a ffydd sy’n ymwneud â COVID-19, yr ymateb iddo ac unrhyw gyfyng-gyngor moesol neu foesegol a fydd yn deillio o’r sefyllfa hon. 
  1. Disgwylir i CMEAG-Cymru ymateb yn gyflym i geisiadau ad-hoc sy’n codi o ganlyniad i faterion iechyd neu ddigwyddiadau COVID-19 y bydd o bosib angen eu hystyried ar frys.

Rhestr Aelodaeth

Mae’r grŵp yn cael ei gadeirio gan Dr Heather Payne ac Emma Bennett. Mae’r grŵp yn cynnwys Swyddogion Llywodraeth Cymru sy’n cynrychioli iechyd, cydraddoldeb a meysydd polisi perthnasol.

Mae’r sefydliadau a’r unigolion a ganlyn wedi’u cynrychioli ar y grŵp:

Enw Sefydliad
Martyn Jones

Cadeirydd Dros Dro Pwyllgor EHRC Cymru

Yr Athro Vivienne Harpwood Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Barwnes Ilora Findlay

Tŷ’r Arglwyddi / Academaidd

Dr Idris Baker

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe / Gofal Lliniarol

Chantal Patel

Cadeirydd Pwyllgor Moeseg Clinigol Bae Abertawe

Yr Athro Alison Mawhinney

Academaidd/Hawliau dynol

Y Parch Carol Wardman

Yr Eglwys a Chymdeithas yr Eglwys yng Nghymru

Y Parch Aled Edwards

Cytun (Eglwysi yng Nghymru)

Tony Blasebalk

Synagog Unedig Caerdydd

Kathy Riddick

Dyneiddwyr Cymru

Rhian Davies

Anabledd Cymru

Helena Herklotz

Comisiynydd Pobl Hŷn

Rachel Thomas

Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus y Comisiynydd Plant

Lynne Hill / Sean O’Neill

Plant yng Nghymru

Rocio Cifuentes

EYST (Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru)

Dr Alison Parken

Academaidd Cydraddoldeb, Prifysgol Caerdydd

Simon Wilkinson

CLlLC

Joe Powell

Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan

Karen Gregory

Coleg Nyrsio Brenhinol

Shavanah Taj

TUC Cymru

Aled Roberts

Comisiynydd y Gymraeg