Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ymunodd Prif Ymgynghorydd Gwyddonol dros Iechyd Llywodraeth Cymru, Dr Rob Orford, â chyfarfodydd COVID-19 Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau Llywodraeth y DU (SAGE) ar 11 Chwefror 2020.

Mae SAGE yn gyfrifol am sicrhau bod cyngor gwyddonol amserol ac wedi’i gydlynu ar gael i benderfynwyr i gefnogi penderfyniadau trawslywodraethol y DU yn Ystafell Friffio Swyddfa’r Cabinet (COBR).

Cytunodd Prif Swyddog Meddygol Cymru Dr Frank Atherton a Dr Orford fod angen strwythur cynghori technegol a gwyddonol ffurfiol o fewn Llywodraeth Cymru hefyd i roi cyngor swyddogol sensitif i Weinidogion. Cytunwyd ar gylch gorchwyl ar gyfer y Gell Cyngor Technegol ar 3 Mawrth, yn unol â chanllawiau SAGE. Mae’r Gell Cyngor Technegol yn cyfarfod dair gwaith yr wythnos.

Diben y Gell Cyngor Technegol yw:

  • Dehongli’r hyn a ddaw gan SAGE mewn cyd-destun Cymreig
  • Anfon gwybodaeth berthnasol a chwestiynau gan Lywodraeth Cymru i SAGE
  • Sicrhau nad oes niwed anuniongyrchol yn cael ei achosi gan yr ymyriadau arfaethedig
  • Helpu i hysbysu canllawiau cynllunio’r GIG a gofal cymdeithasol
  • Sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru fynediad prydlon at yr wybodaeth wyddonol a thechnegol ddiweddaraf
  • Briffio cadeiryddion Fforwm Lleol Cymru Gydnerth a’r Grŵp Cydgysylltu Strategol am ddeilliannau gwyddonol a thechnegol, drwy’r Grŵp Cefnogi Cydlynu Iechyd Strategol, sy’n cael ei gadeirio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Nid yw’r Gell Cyngor Technegol yn disodli swyddogaethau statudol Iechyd Cyhoeddus Cymru nac yn defnyddio gwybodaeth dechnegol neu wyddonol nad yw wedi’i chytuno na’i thrafod gyda SAGE, oni bai bod cyd-destun Cymreig i hynny.

Mae blaenoriaethau’r Gell Cyngor Technegol yn cyd-fynd â rhai SAGE ac yn cynnwys:

  • Canfod a monitro coronafeirws
  • Deall y camau gweithredu effeithiol i helpu i reoli clwstwr
  • Deall, mesur ac addasu’r epidemig yn y DU
  • Sicrhau nad oes niwed anuniongyrchol yn cael ei achosi gan yr ymyriadau arfaethedig
  • Modelu’r epidemig yn y DU a chanfod niferoedd allweddol ar gyfer gwaith cynllunio’r GIG
  • Deall y ffactorau risg sy’n ymwneud â demograffeg, daearyddiaeth a grwpiau agored i niwed
  • Darparu barn seiliedig ar wyddor ymddygiad ar gyfer gwneuthurwyr polisi
  • Sicrhau bod y GIG yn profi unrhyw ymyriadau allweddol ac yn arbrofi â nhw
  • Ystyried unrhyw gyfleoedd therapiwtig, diagnostig neu gyfleoedd eraill a ddaw i’r amlwg.

Mae’r Gell Cyngor Technegol yn cael ei chadeirio ar y cyd gan Dr Orford a’r Dirprwy Gyfarwyddwr Technoleg a Digidol. Daw’r Aelodau o Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe. Mae’n cynnwys amryw o arbenigwyr o wahanol ddisgyblaethau gan gynnwys iechyd, diogelu iechyd, meddygaeth, epidemioleg, modelu, technoleg, gwyddor data, ystadegau, microbioleg, bioleg foleciwlaidd, imiwnoleg, genomeg, gwyddorau ffisegol ac ymchwil.

Mae aelodaeth y Gell Cyngor Technegol yn cael ei hadolygu’n gyson.