Mae'r adroddiad yn asesu cynnydd hyd yn hyn, ac yn nodi a ellir gwneud gwelliannau i'r rhaglen.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Canfu'r gwerthusiad fod y rhaglen yn hwyluso cydweithredu trawsffiniol ar sawl lefel.
Mae'r gwaith trawsffiniol a anogir gan y Rhaglen yn darparu buddion, trwy drosglwyddo arfer gorau, a datblygu perthynas na fyddai wedi datblygu yn absenoldeb y rhaglen.
Fodd bynnag, mae dangosyddion canlyniadau'r rhaglen yn cyflwyno darlun cymhleth oherwydd natur broblemus y dangosyddion a'r data a ddefnyddir yn y llinell sylfaen ac yn y camau canol tymor i fesur cynnydd tuag atynt.
Mae awduron yr adroddiad yn gwneud naw argymhelliad ar gyflawni’r rhaglen yn y dyfodol.
