Daeth yr ymgynghoriad i ben 26 Mawrth 2018.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r cynodeb o ymatebion (dolen allanol) bellach ar gael.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am glywed eich barn ar y cynigion i leihau troseddu a pherfformiad gwael yn y sector gwastraff.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar y cyd ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ar gynigion a fydd:
- yn codi safon cymhwysedd gweithredwyr ar draws yr holl safleoedd gwastraff a ganiateir drwy gryfhau pwerau’r rheoleiddiwr o ran asesu a gorfodi
- diwygio’r gyfundrefn eithriadau gwastraff
- cyflwyno hysbysiad cosb benodedig i berchnogion aelwydydd nad ydynt yn trosglwyddo gwastraff domestig i gludydd gwastraff awdurdodedig neu safle gwastraff.