Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn cael ei chyhoeddi heddiw.

Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw dangos y newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Derfynol 2020-21 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2020.

Mae’n manylu ynghylch nifer o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn ac yn adlewyrchu’r newidiadau i linellau sylfaen a nodwyd ym Mhrif Amcangyfrifon y DU 2020-21.

Bydd y Gyllideb Atodol yn destun craffu gan y Pwyllgor Cyllid ar 04 mis Mehefin a bydd yn cael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 24 mis Mehefin.