Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O ddydd Llun 15 Mehefin, bydd pob aelod o staff cartrefi gofal yn cael cynnig prawf wythnosol am gyfnod o bedair wythnos. Byddant yn gallu cynnal y profion eu hunain drwy ddefnyddio swabiau a fydd ar gael naill ai drwy’r Porthol Cartrefi Gofal neu’n uniongyrchol oddi wrth y Bwrdd Iechyd. Byddwn yn adolygu’r sefyllfa ar ôl asesu’r effaith, a byddwn yn ystyried y camau nesaf i’w cymryd i sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddiogelu ein cartrefi gofal. 

Hoffwn ddiolch i staff y byrddau iechyd lleol am eu holl ymdrechion, sydd wedi sicrhau ein bod wedi gallu cynnal rhaglen brofi sylweddol. Byddwn yn parhau i weithio gyda chartrefi gofal a'r sector i sicrhau bod profion rheolaidd yn helpu i gefnogi ein rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu.