Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nid yw’r rhan hanfodol y mae fferyllfeydd cymunedol yn ei chwarae yn ein cymunedau ac o ran ein hiechyd erioed wedi bod mor amlwg ag yn ymateb y sector i’r pandemig COVID-19.  Rwy’n hynod falch o allu cadarnhau yn awr fy mod, yn union cyn y pandemig, wedi dod i gytundeb gyda chynrychiolwyr fferyllfeydd cymunedol ynghylch pecyn ariannu am dair blynedd, sy’n darparu buddsoddiad ychwanegol sylweddol a sicrwydd hirdymor i holl fferyllfeydd Cymru. 

Dros y cyfnod, bydd y cytundeb amlflynyddol yn darparu £18.3m o gyllid ychwanegol ar gyfer fferyllfeydd, a bydd cynnydd o £8.6m y flwyddyn yn y cyllid cyffredinol ar gyfer y sector erbyn 2022-23. Mae’n gwarantu bod ein diwygiadau i sicrhau bod gwasanaethau fferylliaeth gymunedol yn bodloni anghenion pobl Cymru, yn awr ac yn y dyfodol, yn parhau, ac mae hynny’n hynod bwysig.

Bydd y cytundeb hwn yn adeiladu ar y cynnydd sylweddol yr ydym eisoes wedi’i wneud gyda’n gilydd er mwyn creu fferyllfeydd cymunedol gwirioneddol glinigol, sy’n bodloni anghenion pobl a’r GIG fel rhan hanfodol o batrwm gofal sylfaenol cadarn. 

Dros y tair blynedd ddiwethaf, rydym wedi mwy na dyblu’r cyllid sydd ar gael ar gyfer fferyllfeydd sy’n darparu gwasanaethau clinigol, gan wneud y defnydd gorau o sgiliau fferyllwyr a helpu pobl i gael gafael ar y cymorth mwyaf priodol i ddiwallu eu hanghenion.  Erbyn hyn, mae fferyllfeydd ym mhob rhan o Gymru yn darparu gwasanaeth mân anhwylderau, cymorth i roi’r gorau i ysmygu ac atal cenhedlu brys fel mater o drefn, gan leihau’r pwysau ar rannau eraill, llai priodol, o’r GIG.

Bydd y cytundeb hwn nid yn unig yn cynyddu’r cyllid ar gyfer gwasanaethau clinigol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu darparu yn gyson gan bob fferyllfa yng Nghymru, ond bydd hefyd yn sicrhau y gall Byrddau Iechyd barhau i gynyddu faint o fferyllwyr sy’n rhoi presgripsiynau sydd ar gael, yn ogystal â modelau gofal gwirioneddol arloesol fel ein gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf. 

Mae integreiddio pellach rhwng fferylliaeth gymunedol a darparwyr gofal sylfaenol eraill yn hanfodol bwysig os ydynt am ddarparu’r gefnogaeth y mae ar y GIG, pobl a chymunedau ei hangen. O ganlyniad, byddwn yn darparu cyllid yn benodol ar gyfer creu a chefnogi swyddi arweinydd fferylliaeth gymunedol ym mhob clwstwr gofal sylfaenol. Bydd yr arweinwyr hyn yn gweithredu fel eiriolwyr dros rôl fferyllfeydd cymunedol o fewn gofal sylfaenol ac yn sicrhau y cyflawnir eu potensial yn llawn.

Bydd angen i drawsnewidiad contractiol fynd law yn llaw â thrawsnewidiad i’r gweithlu fferylliaeth gymunedol a defnydd y sector o dechnoleg. Fel rhan o’r cytundeb, byddwn yn darparu cyllid ychwanegol ar gyfer hyfforddiant er mwyn i fferyllwyr allu rhoi presgripsiynau yn annibynnol ac er mwyn cefnogi datblygiad technegwyr fferylliaeth. Ym maes technoleg, byddwn yn parhau i ddatblygu, gwella ac ymestyn y system TG Dewis Fferyllfa ac yn sicrhau bod pob fferyllfa gymunedol yng Nghymru yn ei defnyddio. Byddwn hefyd yn darparu gwell mynediad i gofnod meddygon teulu Cymru ar gyfer fferyllwyr sy’n darparu gwasanaethau clinigol er mwyn cefnogi gofal diogel ac effeithiol, yn cyflwyno platfform ymgynghori dros fideo cenedlaethol Cymru i fferyllfeydd ac yn sicrhau y gall 3,000 o fferyllwyr a thechnegwyr fferylliaeth gael gafael ar yr ystod o offer, gan gynnwys systemau fideogynadledda, negeseuon gwib ac e-bost y GIG, sydd ar gael drwy Office 365. 

Mae’r cytundeb hwn yn cynnig sylfaen i’n cynllun hirdymor ar y cyd o drawsnewid swyddogaeth fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru. Yn amlwg, bydd angen cael cyfnod pontio wrth i’r bygythiad o du COVID-19 leihau ac i ni gynnig gofal arferol unwaith eto. Er y byddwn yn cymryd camau i ddatblygu’r gweithlu a defnyddio technoleg yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol hon, mae’r pandemig yn golygu y bydd rhai o’r camau yr oeddem wedi gobeithio eu cyflwyno eleni bellach yn dechrau o ddifrif ym mis Ebrill 2021. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda chynrychiolwyr fferyllwyr cymunedol er mwyn deall a datrys effeithiau ariannol COVID-19 ar gyfer y sector ac er mwyn paratoi ar gyfer gweithredu yn 2021.