Neidio i'r prif gynnwy

Mae Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru wedi cael £3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi eu gallu o safbwynt cydnerthedd cenedlaethol a’r ymateb i argyfyngau cenedlaethol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wedi’i rannu rhwng tri awdurdod Cymru, bydd y cyllid yn cefnogi Awdurdodau Tân ac Achub i ymateb i ddigwyddiadau cemegol, biolegol, radiolegol neu niwclear; llifogydd difrifol; digwyddiadau’n ymwneud â chwymp adeiladau neu strwythurau eraill; ac ymosodiadau gan derfysgwyr; talu am gerbydau a chyfarpar arbenigol yn ogystal â’r criwiau a fydd yn eu defnyddio.

I helpu gyda’r pandemig COVID-19 diweddar, mae Awdurdodau Tân ac Achub Cymru wedi neilltuo rhai o’r asedau a ariannwyd i gefnogi cydnerthedd cenedlaethol i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru. Mae hyn yn cynnwys pum uned ddiheintio sy’n gallu dal nifer fawr o bobl. Cafodd y rhain eu rhoi i ysbytai yng Nghymru i’w defnyddio fel cyfleusterau brysbennu neu brofi cleifion yr amheuir bod COVID-19 arnynt. Cafodd cyfarpar a chriwiau eu defnyddio cyn hynny fel rhan o’r ymateb i Stormydd Ciara a Dennis ym mis Chwefror.

Fel rhan o’r grant eleni, bydd cyfarpar diogelu personol yn cael ei uwchraddio, ynghyd â synwyryddion LCD. Bydd cerbydau presennol hefyd yn cael gwasanaeth a gwaith cynnal a chadw yn cael ei gynnal. Bydd yr arian hefyd yn sicrhau bod gweithwyr sydd wedi’u hyfforddi yn arbennig ar gael i ddefnyddio cerbydau a chyfarpar cydnerthedd cenedlaethol, i ymateb i’r peryglon a’r bygythiadau a nodir ar lefel genedlaethol ac ar lefel y DU.

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

Er ein bod yn gobeithio mai prin y byddant yn cael eu defnyddio, neu na fyddant byth yn cael eu defnyddio yn ddelfrydol, mae’n hanfodol bod gan Gymru'r gallu i ymateb i ddigwyddiadau difrifol iawn.

Rwy’n falch ein bod yn gallu parhau i helpu’r Awdurdodau Tân ac Achub i ymateb i’r argyfyngau hyn a rhoi hwb i’r gallu cydnerthedd cenedlaethol effeithiol ac effeithlon sydd gennym yn barod yma yng Nghymru.

Mae’r pandemig a’r llifogydd diweddar wedi dangos inni pa mor bwysig yw sicrhau bod y gallu hwn a’r cyfarpar hyn ar gael. Bydd y cyllid hwn yn sicrhau bod y gallu hwn yn cael ei gynnal a bod modd ei ddefnyddio’n hyblyg ac yn rhwydd i sicrhau Cymru sy’n fwy diogel a gwella lles pawb.

Dywedodd Richard Prendergast, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

Mae tri Gwasanaeth Tân Cymru yn falch o allu cefnogi cydnerthedd yng Nghymru a thu hwnt. Rydyn ni’n sicrhau ein bod yn datblygu gallu er mwyn gallu cefnogi’r cyhoedd mewn cyfnod o angen. Mae’r cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru yn rhan hanfodol o hynny.

Mae’r dulliau o feithrin gallu sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru yn ffurfio rhan o Gydnerthedd Cenedlaethol ehangach y DU hefyd, ac yn cefnogi trefniadau ymateb brys trawsffiniol.