Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effaith mwy hirdymor y Prosiect, gan gynnwys y newidiadau i’r ffordd y mae ysgolion yn diwallu eu hanghenion cyflenwi ac effaith y rôl ychwanegol ar athrawon.

Mae’r canfyddiadau o’r ymchwil dilynol hwn yn cefnogi’r casgliadau a’r argymhellion a nodwyd yn y prif adroddiad gwerthuso ym mis Tachwedd 2019.

Llwyddodd y prosiect i alluogi ysgolion i gydweithio er mwyn llunio trefniadau arloesol ar gyfer cael gafael ag athrawon cyflenwi ar gyfer absenoldeb.

Prif bwyntiau

  • O’r naw clwstwr arweiniol sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil, roedd dau wedi parhau yn ystod y drydedd flwyddyn.
  • Adroddodd y clystyrau ysgolion a barhaodd yn fod effaith gadarnhaol ar ansawdd yr addysgu, ar rannu arferion rhwng ysgolion ac ar ymddygiad disgyblion.
  • Roedd yr arferion cydweithio a sefydlwyd neu a gryfhawyd yn ystod y prosiect wedi parhau rhwng ysgolion clwstwr
  • Roedd y rhan fwyaf o’r athrawon ychwanegol a holwyd yn teimlo bod hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar eu hyder, eu harferion addysgu a’u cyfleoedd dysgu proffesiynol

Daw'r adroddiad i'r casgliad fod y prosiect yn cynnig manteision i ysgolion yn ystod yr argyfwng coronafeirws (COVID-19) presennol.

  • Hyblygrwydd i gynllunio'n fwy strategol ar draws cyfnodau ysgol.
  • Effeithiau cadarnhaol o ran cefnogi’r  broses o drosglwyddo dysgwyr i'r cyfnod uwchradd.
  • Annog cydweithio ymysg ysgolion y tu hwnt i faterion cyflenwi.
  • Mae’r manteision i Athrawon Newydd Gymhwyso yn gwella ansawdd yr addysgu.

Adroddiadau

Gwerthusiad o’r clwstwr cyflenwi mewn ysgolion: adroddiad dilynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Helen Shankster

Rhif ffôn: 0300 025 9247

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.