Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cyfrifon pob un o un ar ddeg o gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru ar gyfer 2019-20 wedi'u harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a'u gosod gerbron y Senedd. Fel y blynyddoedd diwethaf, cafodd cyfrifon Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG eu paratoi o dan drefn ariannol dair blynedd y GIG a gyflwynwyd gan Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014. Fel Awdurdod Iechyd Arbennig, nid yw Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi'i gynnwys yn y Ddeddf honno, ac mae'n ofynnol i'r corff hwn fantoli'r gyllideb bob blwyddyn ariannol.

Roedd Archwilydd Cyffredinol Cymru o'r farn bod holl gyfrifon y GIG ar gyfer 2019-20 yn 'gywir a theg'. Oherwydd heriau paratoi ac archwilio cyfrifon yn ystod y pandemig, bu'n rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol gyfyngu cwmpas ei farn ar gyfrif Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gan nad oedd hi'n bosibl i'r archwiliad yno brofi'r rhestrau cyflenwadau ar 31 Mawrth 2020 i'r graddau arferol.

Gwnaeth wyth o'r un ar ddeg o gyrff y GIG fantoli'r gyllideb yn 2019-20. Gwnaeth chwech o'r deg o fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG sydd wedi'u cynnwys yn Neddf 2014 gydymffurfio â'r ddyletswydd statudol i fantoli'r gyllideb drwy weithio o fewn eu cyllidebau yn ystod y cyfnod asesu tair blynedd o fis Ebrill 2017 i fis Mawrth 2020. Hefyd, cydymffurfiodd AaGIC â'i ddyletswydd i fantoli'r gyllideb yn 2019-20. Gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fantoli'r gyllideb yn 2019-20 am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd, ond oherwydd diffygion mewn blynyddoedd ariannol blaenorol, ni chydymffurfiodd â'r ddyletswydd statudol i fantoli'r gyllideb dros gyfnod o dair blynedd.

Fel y blynyddoedd diwethaf, mae'r pedwar bwrdd iechyd sydd wedi methu â bodloni eu dyletswydd statudol i fantoli'r gyllideb ar gyfer y cyfnod asesu tair blynedd wedi cael barn amodol ar reoleidd-dra gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer eu cyfrifon yn 2019-20.

Yn gyfan gwbl, alldro 2019-20 GIG Cymru oedd diffyg o £89 miliwn, sydd wedi'i ostwng o £96 miliwn yn 2018-19. Er bod gennyf bryderon o hyd ynghylch sefyllfa ariannol y tri bwrdd iechyd sy'n parhau i fod mewn diffyg, rwy'n falch o weld y cynnydd y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi'i wneud yn 2019-20 o ran datblygu Cynllun Tymor Canolig Integredig cymeradwy yn ogystal â llwyddo i fantoli'r gyllideb erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mae ei brofiad yn dangos ei bod yn bosibl i gyrff ddod allan o'r lefelau uwch o uwchgyfeirio ac ymyrryd gan Lywodraeth Cymru a mynd yn ôl at lefelau monitro arferol.

Mae chwe blynedd wedi bod bellach ers cyflwyno Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2014 a'r ddyletswydd i fantoli'r gyllideb dros dair blynedd. Yn y ddwy flynedd diwethaf yn enwedig, mae gwelliant cyson wedi bod yn y perfformiad ariannol cyffredinol a nifer y cyrff sydd nawr wedi mantoli'r gyllideb. Serch hynny, mae'r pedwar corff nad ydynt wedi gallu gweithio o fewn eu cyllidebau dros y cyfnod hwn wedi cronni diffygion o dros £600 miliwn yn gyfan gwbl ers 2014. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod darparu cyfanswm o bron i £470 miliwn o gymorth ariannol strategol i'r cyrff hyn i'w galluogi i gyflawni eu rhwymedigaethau ariannol i staff a chyflenwyr tra maent mewn diffyg.

Mae diffyg hanesyddol i'r fath raddau yn amlwg yn rhwystr i'r pedwar bwrdd iechyd hyn wrth iddynt ddechrau cynllunio ar gyfer adfer o bandemig COVID-19 yn y tymor byr a chanolig. Hyd yma, y disgwyl oedd y dylai eu cynlluniau at y dyfodol wneud darpariaeth ar adeg briodol i ad-dalu'r diffyg hwn a'r cymorth ariannol perthnasol. Byddai hyn yn eu gorfodi i danwario'n sylweddol eu dyraniadau yn y dyfodol er mwyn creu digon o arian dros ben i ad-dalu'r diffyg.

Rwyf felly'n cadarnhau na fydd angen mwyach i gyrff mewn diffyg ad-dalu'r cymorth ariannol strategol a ddarperir iddynt, ond bydd yn parhau i gael ei ddatgelu yn eu cyfrifon blynyddol. Hefyd, pan fydd corff sydd wedi bod mewn diffyg yn flaenorol yn cydymffurfio â'r ddyletswydd i fantoli'r gyllideb dros dair blynedd, rwy'n cadarnhau na fydd yn ofynnol iddo ad-dalu unrhyw ddiffygion hanesyddol yr aeth iddynt cyn cydymffurfio â'r ddyletswydd statudol. Bwriad hyn yw egluro'r polisi ar ddyledion hanesyddol a rhoi sicrwydd i'r cyrff hyn wrth iddynt gynllunio at y dyfodol. 

Mae fy swyddogion yn paratoi adroddiad cryno o'r Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau’r GIG ac AaGIC, a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Awst ar ôl i Archwilydd Cyffredinol Cymru ei gymeradwyo.