Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n cyhoeddi imi benderfynu atal y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 am gyfnod dros dro, oherwydd pandemig Covid-19. Mae hynny’n golygu na fydd ysgolion yn cael eu hasesu na’u rhoi mewn categori cymorth lliw ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, ac ni fydd unrhyw gategorïau cymorth yn cael eu cyhoeddi ar wefan Fy Ysgol Leol ym mis Ionawr 2021.

Mae hyn yn llunio rhan o’n hymateb ehangach i’r pandemig, ac yn adlewyrchu’r ymrwymiad a wnes i helpu i leihau’r baich ar yr ysgolion ac ar y system, drwy ddileu neu lacio gofynion pan fo’n bosibl i wneud hynny. Rwy eisoes wedi llacio’r gofynion am gyfnod dros do ar gyfer cynnal profion ac asesiadau cenedlaethol ac adrodd am y deilliannau, gan gynnwys cynnal gwaith cymedroli. Hefyd, mae’r holl gasgliadau data statudol nad oedd wedi dechrau a oedd i fod i gael eu casglu cyn gwyliau haf yr ysgolionm wedi’u canslo. Ac mae’r trefniadau arferol ar gyfer adrodd am fesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 ac ôl-16 wedi’u hatal ar gyfer y flwyddyn hon. Mae Estyn wedi rhoi terfyn ar eu trefniadau arolygu am gyfnod amhenodol hefyd. Ar y cyd, bydd y camau hyn yn helpu i roi sicrwydd i’r ysgolion ynghylch y trefniadau ar hyn o bryd a’r rhai ar gyfer yr hydref. Byddant hefyd yn helpu i roi mwy o gyfle i’r ysgolion sicrhau eu bod mewn sefyllfa dda i gefnogi dysgwyr wrth inni symud i’r cam nesaf.

Mae sicrhau bod yr ysgolion yn cael eu cefnogi mewn modd effeithiol a thrylwyr yn holl bwysig. Rydym yn cydweithio’n agos â’n partneriaid strategol i gynllunio sut y byddwn yn gwneud hynny, fel sydd wedi’i amlinellu yn ein Fframwaith penderfyniadau ar gyfer y cam nesaf i addysg a gofal plant.