Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidogion Cyllid y gweinyddiaethau datganoledig yn annog Llywodraeth y DU i lacio’r cyfyngiadau ariannol sydd wedi’u gosod ar y llywodraethau datganoledig fel y gallan nhw ymateb yn well i argyfwng y coronafeirws (COVID-19).

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyn Datganiad yr Haf y Canghellor, mae Rebecca Evans, Kate Forbes a Conor Murphy yn galw am sicrwydd a fydd yn rhoi’r rhyddid iddyn nhw droi cyllid cyfalaf yn refeniw o ddydd i ddydd, a rhoi diwedd ar y cyfyngiadau benthyg mympwyol. Maen nhw hefyd yn galw am fwy o eglurder o ran manylion yr Adolygiad o Wariant sydd ar ddod.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:

“Mae’r rheolau sydd wedi’u gosod gan y DU yn amharu ar ein hymateb i argyfwng COVID-19 ac yn cyfyngu ar ein gallu i sicrhau bod mwy o adnoddau yn mynd i’r rheng flaen.

“Does dim rheswm clir dros y rheolau hyn, sy’n tanseilio rheolaeth gyllidebol dda yng Nghymru.

“Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, TUC Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ac, yn fwy diweddar, Pwyllgor Cyllid y Senedd, i gyd wedi galw am newid hefyd.

“Mae’r argyfwng yn golygu bod hwn yn fater brys. Mae’n bryd i Lywodraeth y DU weithredu a darparu’r hyblygrwydd sydd ei angen arnom i ymateb a buddsoddi yn adferiad Cymru.”

Dywedodd Kate Forbes, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn yr Alban:

“Bydd y pwerau rydyn ni’n gofyn amdanyn nhw yn galluogi Llywodraeth yr Alban i ymateb i COVID-19 yn fwy effeithiol ac ailgychwyn ein heconomi. Pwerau cymharol gyfyngedig ydyn nhw ond byddent yn lleddfu rhywfaint o’r pwysau aruthrol ar ein cyllideb ac yn rhoi mwy o adnoddau inni danio ein hadferiad.

“Ar hyn o bryd, rhaid i unrhyw arian ychwanegol i gynnal gwasanaethau ac adfer yr economi ddod o feysydd eraill. Mae hynny’n creu risgiau i wasanaethau cyhoeddus, swyddi a busnesau hanfodol. Rwyf felly’n galw ar y Canghellor i lacio’r rheolau cyllidol caeth hyn, a rhoi’r hyblygrwydd sydd ei angen arnom i fynd i’r afael â’r heriau anferthol sy’n wynebu ein heconomi.

“Hefyd, hoffwn weld mwy o uchelgais yn lefel y buddsoddiad yn ein heconomi. Wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban gynnig ar gyfer pecyn ysgogi gwerth £80 biliwn ledled y DU. Yr hyn sydd ei angen ar adeg o argyfwng fel hon yw polisïau hyderus ac ymarferol a fydd yn hybu gweithgarwch, yn hyrwyddo buddsoddiad ac yn diogelu swyddi.”

Ychwanegodd Conor Murphy, Gweinidog Cyllid Gogledd Iwerddon:

“Mae’n hanfodol bod gan y Gweinyddiaethau Datganoledig yr adnoddau i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i’r heriau sy’n codi yn sgil COVID-19.

“Gall mwy o hyblygrwydd ariannol ein helpu i ddelio â’r heriau hyn a defnyddio ein cyllidebau i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, diogelu pobl agored i niwed ac adfer yr economi.”