Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy'n cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2019-20.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn i’r Aelodau gael gwybod am gasgliadau’r ymchwil. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â’r casgliadau hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.

https://llyw.cymru/cynllun-gostyngiadaur-dreth-gyngor-adroddiadau-blynyddol

Ers 2013-14, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ddiogelu aelwydydd incwm isel a rhai sy'n agored i niwed ledled Cymru drwy gynnal hawliadau llawn am gymorth i dalu eu biliau treth gyngor o dan ein Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. 

Rydym wedi parhau i gefnogi'r cynllun drwy ddarparu £244m yn y setliad llywodraeth leol blynyddol. Mae ein cynllun cenedlaethol yn un sydd wedi'i deilwra ac yn golygu bod y cyllid hwn yn cael ei dargedu at y rhai sydd ei angen fwyaf.

Yn 2019-20, golygodd hyn bod tua 275,000 o aelwydydd incwm isel a rhai sy'n agored i niwed - sef un o bob pum aelwyd - wedi elwa ar ostyngiad yn eu treth gyngor.  O'r rhain, amcangyfrifir nad oedd 220,000 ohonynt wedi talu unrhyw dreth gyngor o gwbl.

Er gwaethaf ein cefnogaeth barhaus i'r cartrefi mwyaf agored i niwed yng Nghymru, mae'r adroddiad yn awgrymu bod y nifer sy'n manteisio ar y CTRS wedi dirywio'n raddol yn ystod 2019-20. Fodd bynnag, oherwydd amseriad yr adroddiad hwn, nid yw'n ystyried effaith economaidd Covid-19, a disgwylir i lwyth achosion CTRS fod wedi cynyddu yn ystod y misoedd diwethaf.

Fel bob amser, ac yn enwedig yn yr amgylchiadau ansicr a heriol presennol, byddwn yn annog pawb i edrych ar ein gwefan i weld a oes ganddynt hawl i gael help gyda'u bil treth gyngor o dan ein cynllun lleihau neu un o'r gostyngiadau eraill sydd ar gael:

https://beta.llyw.cymru/talu-llai-o-dreth-gyngor

Rwy'n ddiolchgar am gymorth parhaus awdurdodau lleol i ddarparu'r CTRS ac wrth helpu i sicrhau bod y gefnogaeth ariannol bwysig hon yn cyrraedd cartrefi cymwys. Rwy’n parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod camau pellach yn cael eu cymryd i liniaru’r canlyniadau i bobl y mae diwygiadau lles Llywodraeth y DU yn effeithio arnynt, yn ogystal â chefnogi cartrefi bregus mewn ymateb i Covid-19.

Rydym hefyd yn parhau i wneud cynnydd gyda'r rhaglen waith helaeth i archwilio sut y gellid gwella'r system dreth gyngor yn y tymor canolig a'r tymor hwy i gyflawni ein hymrwymiad i wneud treth gyngor yn decach. Cyhoeddais ddiweddariad cynnydd ar y rhaglen waith hon ar 5 Tachwedd 2019. Gellir cyrchu hwn trwy'r ddolen ganlynol:

https://llyw.cymru/diwygio-cyllid-llywodraeth-leol-diweddariadau-blynyddol