Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, wedi pwyso ar y niferoedd uwch nag erioed sy’n dysgu Cymraeg yn ddigidol i gymryd rhan yn Eisteddfod rithiol AmGen eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad yn yr Eisteddfod AmGen, sy’n cael ei chynnal yn rhithiol eleni mewn ymgais i sicrhau y gall pobl ddal i gwrdd i ddathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru, datgelodd y Gweinidog ei bod wrth ei bodd yn clywed mai’r Gymraeg yw’r seithfed iaith fwyaf poblogaidd i’w dysgu ar ap iaith Duolingo yn y DU, a’i bod felly yn fwy poblogaidd na Tsieineeg.

Cofrestrodd mwy o bobl y DU nag erioed i ddysgu Cymraeg ar yr ap rhwng Mawrth a Mehefin eleni.

Mewn ymgais i estyn allan at ddysgwyr Cymraeg sy’n cynhesu at yr iaith, bydd yna weithgareddau dyddiol, megis sesiynau blasu Cymraeg, a digwyddiadau i ddysgwyr.

Bydd yna ddigwyddiadau hefyd i roi cyfleoedd i blant barhau i siarad a chlywed y Gymraeg y tu allan i’r ysgol, gan gynnwys straeon, gemau a chrefftau, a chaiff hyn ei gysylltu ag ymgyrch Llond Haf o Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol, sef sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac mae am gyrraedd y nod drwy strategaeth Cymraeg 2050.

Ym mis Ebrill, cymeradwyodd y Gweinidog gyfraniad ychwanegol o £500,000 tuag at Eisteddfod eleni, yn ogystal â chyllid craidd Llywodraeth Cymru o £603,000, er mwyn sicrhau dyfodol ariannol yr Eisteddfod a chaniatáu i’r Eisteddfod rithiol ddigwydd.

Yn ystod sesiwn banel i drafod gwahanol agweddau ar ddwyieithrwydd yng Nghymru, dywed y Gweinidog fod y cyfnod clo yn rhoi’r cyfle perffaith i bobl fireinio eu sgiliau Cymraeg.

Meddai Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan:

Mae’n wych gweld cymaint o bobl yn achub ar y cyfle i ddefnyddio technoleg i wella eu Cymraeg.

A’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol hefyd yn gweld cynnydd nodedig yn y bobl sy’n cofrestru i ddysgu ar-lein, mae’n dangos sut y gall technoleg ei gwneud yn bosibl i genhedlaeth newydd ddysgu’r Gymraeg.

Mae’n siom na all yr Eisteddfod ddigwydd fel arfer eleni, ond dw i’n ei llongyfarch am greu AmGen a dw i’n edrych ymlaen at gymryd rhan mewn panel i drafod gwahanol agweddau ar ddwyieithrwydd yng Nghymru.

Mae dyfnhau ein dealltwriaeth o ddwyieithrwydd yn rhan allweddol o’n hymdrechion i hyrwyddo strategaeth Cymraeg 2050.