Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates, yn annog pobl i edrych ar yr opsiynau a ffefrir ar gyfer y gwelliannau ar hyd yr A483 yn Wrecsam ac i fynegi’u barn am y cynigion pwysig hyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr A483 yw un o’r prif ffyrdd cyswllt rhwng y Gogledd a’r De, a rhwng y Gogledd a Chanolbarth Lloegr. Mae’n ffordd bwysig i dwristiaid sy’n teithio i’r rhanbarth ac ar gyfer cludo nwyddau o Ewrop, y DU ac Iwerddon.

Mae angen y gwelliannau er mwyn lleihau’r tagfeydd wrth y cyffyrdd ar hyd yr A483 a lleihau’u heffaith ar economi Wrecsam a gweddill y Gogledd.

Mae’r cynigion hyn yn rhan o raglen o gynlluniau i wella’r mannau cyfyng sydd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru a dogfen Symud Gogledd Cymru Ymlaen gyda’r nod o greu rhwydwaith trafnidiaeth dibynadwy ac effeithiol ar draws y rhanbarth ac ar draws ffin Cymru a Lloegr.

Mae’r cynigion ar gyfer yr A483 yn allweddol i’r weledigaeth hon a byddant yn bwysig i gefnogi llwyddiant y Gogledd yn y dyfodol.

Mae’r opsiynau a drafodir yn yr arddangosfa hon wedi bod trwy broses Arfarniad Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru (WelTAG) a gafodd ei gynhyrchu yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r Arfarniad yn cynnwys ystyried dulliau teithio, yr amgylchedd, diogelwch y ffyrdd, ansawdd aer a modelau traffig.

Caiff arddangosfeydd eu cynnal yn unol â’r rheolau ar Covid-19 yn Ngwesty’r Ramada yn Wrecsam ar 23-24 Medi. Fe welwch fanylion llawn yr opsiynau a ffefrir a’r ymgynghoriad ar-lein yma.

Dyma’r opsiynau a ffefrir ar gyfer pob cyffordd:

  • cyffordd 3 (Ffordd Wrecsam): mân-newidiadau i’r gyffordd bresennol i ymgorffori’r gwelliannau teithio llesol.
  • (Ffordd Rhuthun): newidiadau mawr i’r gyffordd bresennol, gan gynnwys system gylchu newydd sy’n cadw trosbont yr A525 ac yn ymgorffori gwelliannau teithio llesol ar hyd yr A525 ar draws yr A483.
  • cyffordd 5 (Cylchfan Plas Coch / Ffordd yr Wyddgrug): gwelliannau teithio llesol.
  • cyffordd 6 (A5156 / Cyfnewidfa Gresffordd): mân-newidiadau i’r gyffordd bresennol i ymgorffori gwelliannau teithio llesol.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth a’r Gogledd Ken Skates:

“Mae’r gwelliannau hyn ar y darn hwn o’r A483 yn angenrheidiol.  O adael y ffordd fel y mae, byddai’n amharu ar dwf Wrecsam a rhanbarth y Gogledd yn ei gyfanrwydd.

“Yn dilyn proses asesu drylwyr, mae’n dda nawr gallu cyhoeddi’r opsiynau a ffefrir ar gyfer y pedair cyffordd.  Trwy’r cynllun hwn, rydym am wireddu cyfleoedd ar gyfer teithio llesol, gwella’r cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a gwella’r llif traffig a fydd yn arwain at wella ansawdd yr aer.

“Rwy’n pwyso ar bawb sy’n defnyddio’r A483 yn ardal Wrecsam i ddweud eu dweud am y cynlluniau hyn sy’n hanfodol i’r rhanbarth.

Dywedodd y Cyng David A Bithell, Arweinydd dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth:

“Mae’r A483 yn rhan hanfodol o’r rhwydwaith ffyrdd yn Wrecsam a’r Gogledd. Mae’n bwysig bod y gwelliannau’n cael eu gwneud i leihau’r tagfeydd er lles yr ardal. Byddan nhw hefyd yn gwella llwybrau Teithio Llesol yr ardal. Rhowch o’ch amser i gymryd rhan a mynegi’ch barn wrth Lywodraeth Cymru.

Bydd yr ymgynghoriad yn para tan 22 Tachwedd a disgwylir cyhoeddiad ynghylch yr opsiynau a ffefrir yng Ngwanwyn 2021. Yn amodol ar y prosesau statudol, gallai’r gorchmynion drafft gael eu cyhoeddi’n ddiweddarach yn 2021 gyda’r gwaith dylunio manwl yn cael ei wneud yn 2022.