Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn yr wythnos ddiwethaf, mae ein gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu wedi nodi sawl clwstwr ar wahân sy’n gysylltiedig ag ynys Zante/Zakynthos yng Ngwlad Groeg, sydd ar hyn o bryd heb gyfyngiadau cwarantin ar deithwyr sy’n dychwelyd. Ar hyn o bryd mae 6 chlwstwr gyda chyfanswm o fwy na 30 o achosion yn yr wythnos ddiwethaf yn deillio o 4 hediad – 2 o’r rheini wedi glanio yn Lloegr.

Mae pryderon gan ein timau iechyd y cyhoedd bod y cyngor a’r mesurau rheoli presennol ar gyfer teithwyr sy’n dychwelyd yn annigonol. Yn anffodus, mae ein Hymgynghorwyr Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy yn gwybod am sawl enghraifft o deithwyr â COVID-19 sydd heb hunanynysu ar ôl dychwelyd i Gymru. Mae hynny’n bryder gwirioneddol inni i gyd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi mynegi pryderon uniongyrchol ynghylch y risg i iechyd y cyhoedd yn sgil teithwyr a fydd yn dychwelyd i Gaerdydd heno o Zante/Zakynthos. Rwy’n rhannu’r pryder hwnnw. Mae hi bron yn sicr y bydd teithwyr sy’n dychwelyd o leoedd sydd â mwy achosion o COVID-19 yn arwain at gyflwyno heintiadau o’r newydd yng Nghymru.

Heb weithredu, mae’n debygol y bydd effeithiau sylweddol ar iechyd a’r economi yn sgil clystyrau newydd o heintiadau a throsglwyddo’r clefyd o’r newydd yng Nghymru. Rwyf felly wedi cytuno ar y camau canlynol:

  1. Bydd pob teithiwr ar yr awyren o Zante/Zakynthos i Gaerdydd heno yn cael llythyr cyn gadael y maes awyr yn cadarnhau y dylent hunanynysu am 14 diwrnod oherwydd y risg o ledaenu COVID-19 i eraill yn ddiarwybod.
  2. Bydd pob teithiwr yn cael cynnig prawf antigenau ar gyfer COVID-19 o fewn 48 awr ar ôl dychwelyd a byddant yn cael cynnig ailgymryd y prawf 8 diwrnod ar ôl cyrraedd adref.

Rwy’n ymwybodol ei bod yn bosibl y bydd teithwyr yn dychwelyd i Gymru o Zante/Zakynthos heno neu yfory o feysydd awyr eraill y tu allan i Gymru. Rwy’n gofyn i’r teithwyr hyn hunanynysu hefyd am 14 diwrnod ar ôl dychwelyd ac i archebu prawf unwaith y maent yn cyrraedd adref gan ailgymryd y prawf 8 diwrnod ar ôl dod adref.

Yn ogystal, rwyf wedi pwyso am gyfarfod cynnar â Llywodraeth y DU a’r gwledydd datganoledig yfory i ystyried yr asesiad risg diweddaraf gan y Gydganolfan Bioddiogelwch

Mae’n amlwg fod angen inni ystyried y posibilrwydd o wneud newidiadau i'r Rheoliadau yng Nghymru a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i deithwyr sy’n cyrraedd y DU o Wlad Groeg, a mannau eraill o bosibl, i hunanynysu ar ôl dychwelyd.

Mae hon yn sefyllfa gyfnewidiol a byddaf yn parhau i adolygu pa fesurau y gallai fod eu hangen yn y dyfodol.

Byddaf wrth gwrs yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.