Neidio i'r prif gynnwy

Darganfyddwch a oes gennych hawl i gael cymorth gyda chostau teithio angenrheidiol y GIG i weld meddyg ymgynghorol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cymorth gyda chostau teithio

Os oes angen i chi deithio i gael triniaeth GIG o dan ofal meddyg ymgynghorol, efallai y bydd gennych hawl i gael cymorth gyda chostau teithio angenrheidiol.

Efallai y byddwch yn gymwys os:

  • ydych chi’n cael budd-daliadau penodol
  • ydych chi’n derbyn incwm isel (dolen i’r cynllun incwm isel)
  • ydych chi’n 16 oed neu hŷn ond o dan 20 oed ac yn ddibynnydd i rywun sy’n cael budd-daliadau/credydau penodol
  • ydych chi’n 16 oed neu hŷn ac nad ydych yn ddibynnydd i rywun sy’n cael budd-daliadau neu gredydau, gallwch hawlio drosoch chi eich hun, hyd yn oed os ydych chi’n byw gyda’ch rhieni – darllenwch y Cynllun Incwm Isel 

Os yw’r claf yn blentyn o dan 16 oed, incwm y rhiant sy’n cyfrif. 

Os nad ydych yn siŵr pa gostau teithio y gallwch gael help gyda nhw, gofynnwch i'r ysbyty cyn i chi deithio.

Bydd disgwyl i chi deithio gan ddefnyddio’r dull rhataf sydd ar gael yn rhesymol ichi ei ddefnyddio.

Os yw’ch meddyg ymgynghorol o’r farn bod angen i rywun deithio gyda chi, bydd costau teithio eich cymar yn cael eu hychwanegu at eich costau teithio chi. Eich incwm chi fydd yn cyfrif.

Hawlio ad-daliad am gostau teithio i ac o’r ysbyty am driniaeth y GIG

Fel arfer, bydd ysbyty’r GIG yn rhoi eich ad-daliad ichi pan fyddwch yn mynd i gael triniaeth. Os nad yw hyn yn bosibl, llenwch y ffurflen hawlio ad-daliad HC5W(T). Mae’r ffurflen yn esbonio beth sydd angen ei wneud.

 

 

 

Cymorth gyda chostau teithio i gael triniaeth y GIG dramor

Efallai y gallech gael cymorth gyda chostau teithio o’ch cartref i’r rheilffordd, porthladd neu faes awyr rhyngwladol lle rydych yn gadael Prydain Fawr. Mae’r trefniadau yr un fath â’r trefniadau ar gyfer teithio o’ch cartref i gael triniaeth yn yr ysbyty.

Waeth beth fo’ch incwm, gallwch gael cymorth gyda chostau teithio o’r man lle rydych yn gadael Prydain Fawr i’r man lle byddwch yn derbyn eich triniaeth ond mae’n rhaid cytuno ar eich dull teithio (e.e. awyr neu reilffordd) a’ch costau teithio cyn ichi deithio. Dylech holi’r person sy’n trefnu eich triniaeth am hyn. Os oes angen meddygol am gymar teithio, dylech holi ynglŷn â chymorth gyda’u costau teithio nhw.