Sut i leisio pryder am eich gofal neu driniaeth ar y GIG.
Cynnwys
Trosolwg
Os oes gennych bryderon am eich gofal neu driniaeth, siaradwch â’r staff sy'n rhan o'ch gofal neu driniaeth cyn gynted â phosibl. Byddant yn ceisio datrys eich pryderon ar unwaith.
Os nad yw hyn o gymorth, neu os nad ydych chi eisiau siarad â'r staff, gallwch gysylltu â thîm cwynion y bwrdd neu'r ymddiriedolaeth iechyd.
‘Gweithio i Wella’ yw enw'r proses GIG Cymru ar gyfer codi pryderon neu gwynion.
Pryderon am wasanaethau a gawsoch gan feddyg teulu, deintydd, fferyllydd neu optegydd
Dylech ofyn i’r practis ystyried y mater ar eich rhan. Os yw’n well gennych, fodd bynnag, gallwch ofyn i dîm cwynion eich bwrdd iechyd neu ymddiriedolaeth iechyd wneud hynny.
Lleisio pryder drwy dîm cwynion eich bwrdd neu ymddiriedolaeth iechyd
Gallwch leisio’r pryder eich hun neu ofyn i ofalwr, cyfaill neu berthynas eich cynrychioli, ond bydd gofyn ichi roi caniatâd ysgrifenedig ar gyfer hyn.
Cysylltwch â'r tîm cwynion yn ardal eich bwrdd iechyd:
Byrddau iechyd lleol
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Ymddiriedolaethau GIG Cymru
Awdurdodau iechyd arbennig
Pan fyddwch wedi lleisio eich pryder, bydd y tîm cwynion:
- yn gwrando ar eich pryderon i geisio eu datrys cyn gynted â phosibl
- yn ymchwilio i'ch pryderon ac yn siarad gyda'r staff fu'n ymwneud â'ch gofal neu driniaeth
- yn cynnig cyfarfod i chi, o bosibl, i drafod eich pryderon
- yn eich rhoi mewn cysylltiad â’r person cywir i’ch helpu
- yn rhoi gwybod i chi beth y maent wedi'i ddarganfod a'r hyn y maent yn bwriadu ei wneud
Dylai'r tîm cwynion ymateb i chi o fewn 30 diwrnod gwaith o dderbyn eich pryder. Os nad oes modd iddynt ymateb o fewn y cyfnod hwnnw, byddant yn egluro pam ac yn eich hysbysu pryd y gallwch ddisgwyl ymateb. Efallai y bydd angen mwy o amser i ymchwilio i rai pryderon.
Beth i’w wneud os nad ydych yn fodlon â’r ymateb a gewch
Os nad ydych yn fodlon ag ymateb y bwrdd iechyd neu'r ymddiriedolaeth iechyd, gallwch gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae Pencoed CF35 5LJ
0300 790 0203 (Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg)
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Terfyn amser ar gyfer lleisio pryderon neu gwynion
Cewch hyd at 12 mis i leisio pryder neu gŵyn. Fodd bynnag, mae'n well siarad â rhywun cyn gynted â phosibl.
Os yw'n fwy na 12 mis a bod rhesymau da dros yr oedi, mae'n bosibl y bydd y tîm cwynion yn dal i allu delio â'ch pryder neu gŵyn.
Cymorth
Mae Llais yn gorff annibynnol sy’n darparu eiriolaeth a chymorth cyfrinachol am ddim ar gyfer cwynion.
Llais
Trydydd llawr
33-35 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9HB
E-bost: ymholiadau@llaiscymru.org
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Gwefan: llaiscymru.org
Gwybodaeth neu ohebiaeth mewn fformat arall
Mae fformatau eraill ar gael gan gynnwys:
- hawdd ei ddarllen
- print bras
- fersiwn plant
Mae fersiynau ieithoedd tramor hefyd ar gael.
Dywedwch wrth y tîm pryderon neu'r practis os oes angen gwybodaeth neu gyfathrebu arnoch mewn fformat gwahanol.
