Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yn gosod cyfres o gyfyngiadau ar symud, cynulliadau, a’r ffordd y caiff busnesau eu gweithredu, gan gynnwys cau busnesau. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sydd ar agor i gymryd mesurau rhesymol i leihau’r perygl y bydd pobl yn dod i gysylltiad â’r coronafeirws. Maent wedi eu cynllunio i ddiogelu pobl rhag lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2).                                                                 

Yr wythnos hon, mae Gweinidogion wedi cynnal yr adolygiad tair wythnos o’r rheoliadau coronafeirws i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gymesur â’r risg iechyd y cyhoedd yn sgil y feirws.

Ers wythnosau olaf mis Awst, rydym wedi gweld cynnydd mawr a chyflym yn nifer yr achosion ar draws Cymru, gan ddechrau yn y De Ddwyrain ond yn lledaenu i’r rhan fwyaf o’r wlad.

Rydym wedi cyflwyno cyfres o gyfyngiadau lleol i ymateb i’r cynnydd mewn ardaloedd awdurdodau lleol ar draws Cymru ac rydym hefyd wedi cyflwyno rhai mesurau cenedlaethol ychwanegol, gan gynnwys gwahardd gwerthu alcohol ar ôl 10pm.

Mae’r sefyllfa iechyd y cyhoedd sy’n gwaethygu ar draws Cymru’n golygu na fyddwn yn gwneud unrhyw newidiadau mawr i’r rheolau yn genedlaethol. Yr unig newid bychan yw y bydd canolfannau sglefrio yn cael ailagor o 3 Hydref, fel y nodwyd yn yr adolygiad diwethaf.

Fodd bynnag, byddwn yn newid y cyfyngiadau lleol i sicrhau nad yw pobl sengl sy’n byw ar eu pen eu hunain, gan gynnwys rhieni sengl, mewn perygl o fod yn unig neu’n ynysig o ganlyniad i’r cyfyngiadau lleol mewn ardaloedd lle bu cynnydd mawr a chyflym yn yr achosion o coronafeirws.

O dan y rheolau newydd, a ddaw i rym yfory, bydd hawl gan oedolion sy’n byw ar eu pen eu hunain i ffurfio aelwyd estynedig – neu swigen – dros dro gydag aelwyd arall yn yr un ardal leol, yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.

Bydd hyn yn galluogi oedolion sengl a rhieni sengl i gwrdd â phobl eraill dan do yn ystod cyfnod y cyfyngiadau lleol, yn y gobaith o leihau effaith emosiynol y cyfyngiadau lleol arnynt. Bydd y rheol ‘chwech o bobl’ yn berthnasol i’r aelwydydd estynedig newydd hyn ar gyfer pobl sengl.

Yn ystod yr wythnos nesaf, byddwn hefyd yn cryfhau pwerau awdurdodau lleol i gyfyngu ar yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus. Bydd hyn yn helpu awdurdodau lleol i atal pobl rhag ymgynnull ac yfed mewn ardaloedd penodol lle mae risg y bydd coronafeirws yn cael ei drosglwyddo.

Mae cyfyngiadau lleol yn awr mewn grym mewn 15 o ardaloedd awdurdodau lleol ac yn Llanelli. Mae’r rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol inni adolygu’r cyfyngiadau hyn yn wythnosol. Cynhaliwyd yr ail adolygiad yr wythnos hon ac rydym wedi dod i’r casgliad ei bod hi’n rhy fuan i godi’r cyfyngiadau yn unrhyw un o’r ardaloedd diogelu iechyd lleol.

Mae’n galonogol bod achosion coronafeirws wedi parhau i ostwng ym mwrdeistref Caerffili yn y saith diwrnod diwethaf. Mae’r diolch am hynny i ymdrechion y bobl sy’n byw yn yr ardal. Ond mae angen i’r cyfraddau ostwng ymhellach cyn inni lacio’r cyfyngiadau. Byddwn yn defnyddio’r saith diwrnod nesaf i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac awdurdodau lleol eraill, meddygon iechyd y cyhoedd, yr heddlu ac eraill, i gytuno ar lwybr fesul cam o lacio’r cyfyngiadau hyn.

Drwy weithio gyda’n gilydd gallwn ddiogelu ein hunain, diogelu ein teuluoedd a diogelu Cymru.