Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl ar gyfer Grŵp Tasglu Parcio ar y Palmant Cymru.

1. Cwmpas

Bydd y Grŵp Tasglu Parcio ar y Palmant Cymru (GTPP) yn cynnal adolygiad o’r dystiolaeth a goblygiadau gwahardd parcio ar y palmant a rhwystrau i droetffyrdd yng Nghymru. Cynigir y bydd yr adroddiad terfynol yn mynd at y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog yn Hydref2020.

Bydd tystiolaeth gan rhanddeiliaid/grwpiau defnyddwyr yng Nghymru i'w chasglu ynghyd â dadansoddiad o ddata, adroddiadau, neu ganfyddiadau ymholiadau eraill a ddefnyddir i bennu canlyniadau a gwneud argymhellion.

Bydd cyfres o ffrydiau gwaith wedi eu rheoli gan Grwpiau Prosiect (GP) yn cael eu sefydlu gan GTPP i ymchwilio i’r materion ymarferol sy’n gysylltiedig â gwneud y newid hwn. Bydd y gwaith yn nodi materion fel sut y dylid ei weithredu, gan ystyried costau a buddion, yn ogystal â'r modd o gyflawni'r isadeiledd a'r newidiadau ymddygiad sy'n ofynnol er mwyn iddo fod yn llwyddiannus.

2. Allan o’r Cwmpas

Rhwystrau eraill i droetffyrdd e.e. pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar balmentydd, dodrefn stryd, byrddau A (hysbysebu) y tu allan i siopau a caffis, gan fod awdurdodau lleol ar hyn o bryd yn mynd i'r afael â hyn.

3. Aelodaeth y Grŵp Tasglu (GTPP)

  • British Parking Association
  • Confederation of Passenger Transport UK
  • Anabledd Cymru
  • Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB)
  • Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau
  • Gwasanaeth Tân ac Achub
  • Guide Dogs
  • Living Streets
  • Cynrychiolwyr Rhanbarthol Awdurdodau Lleol
  • Cyd-bwyllgor PATROL (Rheoliadau Parcio a Thraffig Tu Allan i Lundain)
  • Heddlu
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Cymdeithas Cludiant Ffyrdd
  • SUSTRANS
  • Tribiwnlys Cosbau Traffig Cymru a Lloegr
  • Llywodraeth Cymru
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru