Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Ddeddf ADY a’r Rhaglen Trawsnewid ADY ehangach yn trawsnewid y systemau gwahanol ar gyfer anghenion addysgol arbennig (AAA) mewn ysgolion neu unedau cyfeirio disgyblion ac anawsterau a/neu anableddau dysgu (AAD) mewn addysg bellach, er mwyn creu system unedig i gynorthwyo dysgwyr rhwng 0 a 25 oed sydd ag ADY.

I gael gwybod mwy am y Ddeddf ADY a'r Rhaglen Drawsnewid, ewch i System anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a chyfeirio at God Anghenion Dysgu Ychwanegol 2021 (y Cod ADY).

Mae’r dogfennau canllaw a ganlyn ar gael i egluro’r broses ar gyfer symud dysgwyr i’r system ADY newydd:

Hefyd, gall rhieni a dysgwyr gael rhagor o wybodaeth drwy fynd ar wefan eu hysgol, eu huned cyfeirio disgyblion neu eu hawdurdod lleol, neu drwy gysylltu â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) eu hysgol/uned cyfeirio disgyblion neu eu hawdurdod lleol.

Y system newydd

1. Beth yw'r system anghenion dysgu ychwanegol newydd?

Y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yw'r system newydd i gefnogi plant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru sydd ag ADY. Mae’r system ADY yn disodli’r system anghenion addysgol arbennig (AAA) a’r system ar gyfer cefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu anableddau (AAD).

Crëwyd y fframwaith deddfwriaethol ADY drwy Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Deddf ADY), Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY) a'r rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf. Drwy'r fframwaith statudol hwn, nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod pob dysgwr sydd ag ADY yn cael cymorth i oresgyn rhwystrau i ddysgu ac yn gallu cyflawni’i botensial, a hynny drwy greu’r canlynol:

  • un fframwaith deddfwriaethol i gefnogi pob plentyn o oedran ysgol gorfodol neu iau sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ac i gefnogi pobl ifanc ag ADY sydd mewn ysgol/uned cyfeirio disgyblion neu addysg bellach;
  • proses integredig a chydweithredol o asesu, cynllunio a monitro'r cymorth a ddarperir i ddysgwyr ag ADY, sy'n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol;
  • system deg a thryloyw ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor ac ar gyfer datrys pryderon ac apelau.

Mae'r Ddeddf ADY yn disodli'r termau 'anghenion addysgol arbennig (AAA)' ac 'anawsterau a/neu anghenion dysgu ychwanegol (AAD)' ac yn cyflwyno'r term newydd 'anghenion dysgu ychwanegol (ADY)'.

Bydd gan bob plentyn a pherson ifanc ag ADY, beth bynnag yw difrifoldeb neu gymhlethdod ei anhawster neu ei anabledd dysgu, hawl fel arfer i gynllun cymorth statudol a elwir yn gynllun datblygu unigol (CDU). Bydd plant a phobl ifanc ag ADY yn cael cymorth a elwir yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) a fydd wedi'i nodi yn eu CDU.

2. Beth yw ADY?

Mae gan “anghenion dysgu ychwanegol” neu “ADY” yr ystyr a roddir iddo gan adran 2 o Ddeddf ADY, sef:

(1) Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (pa un a yw'r anhawster dysgu neu'r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol ai peidio) sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

(2) Mae gan blentyn sydd o’r oedran ysgol gorfodol neu berson sy’n hŷn na’r oedran hwnnw anhawster dysgu neu anabledd:

  1. os yw'n cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na'r mwyafrif o'r rhai eraill sydd o'r un oedran, neu
  2. os oes ganddo anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach

(3) Mae gan blentyn sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol anhawster dysgu neu anabledd os yw'r plentyn yn debygol o fod o fewn is-adran (2) pan fydd o'r oedran ysgol gorfodol, neu y byddai'n debygol o fod felly pe na bai darpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei gwneud.

(4) Os yw'r iaith (neu'r ffurf ar iaith) y mae neu y bydd person yn cael ei addysgu ynddi yn wahanol i iaith (neu ffurf ar iaith) sy'n cael neu sydd wedi cael ei defnyddio gartref, nid yw hynny'n unig yn golygu bod gan y person anhawster dysgu neu anabledd.

Mae plant a phobl ifanc ag ADY angen cymorth ychwanegol i ddysgu. Byddai hyn oherwydd:

  • eu bod yn ei chael hi'n anoddach dysgu na phlant eraill o'r un oedran
  • fod ganddynt anabledd sy'n golygu na allant ddefnyddio, neu eu bod yn ei chael hi'n anodd defnyddio, cyfleusterau ar gyfer dysgu yn y feithrinfa, yr ysgol neu'r coleg lleol

Nid oes gan rai plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol mewn meithrinfa, ysgol, uned cyfeirio disgyblion (UCD) neu goleg ADY. Efallai mai’r cyfan sydd ei angen ar y plant neu'r bobl ifanc hyn yw rhywfaint o help i ddal i fyny.

Gelwir y cymorth ychwanegol a roddir i blant ag ADY i'w helpu i ddysgu yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Rhaid i'r ddarpariaeth hon gael ei chynnwys mewn cynllun cymorth o'r enw CDU.

Ystyr darpariaeth ddysgu ychwanegol i blentyn sy'n iau na 3 oed yw darpariaeth addysgol o unrhyw fath.

Darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer person 3 oed neu hŷn yw addysg neu hyfforddiant mewn meithrinfa, ysgol, UCD neu goleg gan amlaf sy'n ychwanegol at, neu’n wahanol i, yr hyn sydd ar gael i'r rhan fwyaf o blant o'r un oedran.

Mae hyn yn golygu bod darpariaeth ddysgu ychwanegol yn gymorth sydd ar gael mewn meithrinfeydd, ysgolion neu golegau gan amlaf, ond nid yw'r rhan fwyaf o blant neu bobl ifanc o'r un oedran angen defnyddio'r cymorth hwn i wneud cynnydd.

Gall DDdY gael ei darparu gan athrawon, cynorthwywyr addysgu neu diwtoriaid. Gall gael ei darparu hefyd gan wasanaethau arbenigol fel therapydd lleferydd ac iaith neu athrawon pobl fyddar.

Gweithredu

3. Pryd fydd y system ADY yn mynd yn fyw?

Dechreuodd y system ADY ar 1 Medi 2021, ac 1 Ionawr 2022, ar gyfer plant hyd at a chan gynnwys Blwyddyn 10 a oedd newydd gael ADY ar ôl y dyddiadau hynny.

Mae plant ag AAA yn symud o’r system AAA i’r system ADY dros 3 blynedd ysgol i sicrhau bod digon o amser i feithrinfeydd, ysgolion, UCDau ac awdurdodau lleol drafod y cymorth sydd ei angen a llunio cynlluniau.

Bydd plant yn symud o'r system AAA i'r system ADY mewn grwpiau. Y grŵp cyntaf sy'n symud o'r system AAA i'r system ADY yw plant:

  • sy’n mynychu meithrinfa awdurdod lleol, ysgol awdurdod lleol neu UCD ac sydd ag AAA gyda chymorth drwy weithredu yn y blynyddoedd cynnar, gweithredu yn y blynyddoedd cynnar a mwy, gweithredu gan yr ysgol, neu weithredu gan yr ysgol a mwy
  • nad oes ganddynt ddatganiad AAA ac nad ydynt yn rhan o broses datganiad AAA (er enghraifft, yn disgwyl penderfyniad am asesiad AAA neu'n disgwyl penderfyniad am ddatganiad AAA)

O mis Medi 2022, bydd plant ag AAA nad ydynt wedi'u cynnwys yn y grŵp cyntaf yn symud i'r system ADY yn ddiweddarach yn y cyfnod gweithredu.

Mae'r tabl isod yn dangos pryd mae'n rhaid i blant yn y grŵp cyntaf a plant â darpariaeth drwy ddatganiadau gael eu symud i'r system ADY ar sail eu grŵp blwyddyn ysgol
Tymhorau'r gwanwyn a'r haf, blwyddyn ysgol 2021 i 2022 Blynyddoedd Meithrin 1 neu 2, Blwyddyn 1, Blwyddyn 3, Blwyddyn 5, Blwyddyn 7 a Blwyddyn 10
Blwyddyn ysgol 2022 i 2023: plant â darpariaeth addysgol arbennig drwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy Blwyddyn 10 (ac unrhyw blant oedd yn Meithrin, Blwyddyn 1, Blwyddyn 3, Blwyddyn 5, Blwyddyn 7 a Blwyddyn 10 yn 2021 i 2022 nad oeddent wedi symud i’r system ADY yn ystod 2021 i 2022)
Blwyddyn ysgol 2022 i 2023: plant â darpariaeth drwy ddatganiadau Meithrin, Derbyn, Blwyddyn 6, Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11
Blwyddyn ysgol 2023 i 2024: plant â darpariaeth addysgol arbennig drwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy Meithrin, Blwyddyn 2, Blwyddyn 4, Blwyddyn 6, Blwyddyn 8 a Blwyddyn 10
Blwyddyn ysgol 2023 i 2024: plant â darpariaeth drwy ddatganiadau Blwyddyn 2, Blwyddyn 3, Blwyddyn 4, Blwyddyn 5, Blwyddyn 6, Blwyddyn 8, Blwyddyn 9 a Blwyddyn 10

 

CDUau

4. Pwy fydd â hawl i gael CDU? Pa bryd fydd hi’n angenrheidiol i awdurdod lleol gynnal CDU?

Mae Deddf ADY yn creu un system ddeddfwriaethol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed sydd ag ADY. Bydd yn disodli’r ddwy system sydd ar waith ar hyn o bryd i gefnogi plant a phobl ifanc o oedran ysgol gorfodol sydd ag AAA, a phobl ifanc mewn addysg bellach sydd ag AAD.

Mae'r system ADY yn disodli'r cynlluniau cymorth presennol (gan gynnwys datganiadau AAA, cynlluniau addysg unigol i ddysgwyr sy'n destun Gweithredu gan yr Ysgol/Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy, a Chynlluniau Dysgu a Sgiliau ar gyfer dysgwyr ôl-16) â Chynllun Datblygu Unigol. Os penderfynir bod ADY gan blentyn neu berson ifanc hyd at 25 oed, bydd ganddo fel arfer hawl i CDU waeth lle mae’n cael ei addysgu. Mae cwestiwn tri uchod yn disgrifio pryd a sut y bydd y system ADY yn mynd yn fyw ar gyfer grwpiau penodol o blant.

Fodd bynnag, nid yw'r Ddeddf yn rhoi hawl i bobl ifanc ag ADY gael addysg barhaus hyd at 25 oed. Pan fo person ifanc ag ADY yn mynychu ysgol a gynhelir neu UCD neu sefydliad addysg bellach, bydd ganddo fel arfer, ond nid bob amser, hawl i CDU.

Bydd pa un a yw’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol baratoi CDU i berson ifanc nad yw’n mynychu ysgol a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion na sefydliad addysg bellach yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Nid yw’n golygu y dylai’r person ifanc gael CDU wedi’i baratoi gan yr awdurdod lleol dim ond oherwydd bod gan y person ifanc ADY. Er enghraifft, efallai y bydd y person ifanc yn gallu cael lle mewn coleg ac mae’n bosibl wedyn y byddai hi’n fwy priodol i’r coleg baratoi a chynnal CDU ar ei gyfer.

Gellir dod o hyd i’r canllawiau ynghylch cymhwyso’r rheoliadau ym Mhennod 17 o’r Cod ADY.

5. Beth yw CDU a sut mae'n wahanol i ddatganiad?

Cynllun statudol yw CDU a gynhelir gan ysgol, uned cyfeirio disgyblion, sefydliad addysg bellach neu awdurdod lleol sy'n disgrifio ADY plentyn neu berson ifanc, y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae ei anhawster neu ei anabledd dysgu yn galw amdani, a gwybodaeth gysylltiedig arall.

Yn wahanol i ddatganiadau, darperir CDUau i blant a phobl ifanc ag ADY, beth bynnag yw difrifoldeb neu gymhlethdod eu hanghenion. Mae statws statudol y CDU yr un fath, beth bynnag yw lefel anghenion y plentyn neu'r person ifanc, a bydd gan unrhyw un sydd â CDU yr un hawliau i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru.

Bwriedir i'r CDU fod yn ddogfen hyblyg a fydd yn amrywio o ran hyd a chymhlethdod, yn dibynnu ar anghenion unigol dysgwyr a'r ffordd y mae anghenion dysgwr yn datblygu ac yn newid dros amser.

6. Pa mor wahanol yw'r Ddeddf ADY i'r un yn Lloegr?

Yn Lloegr, fe wnaeth Deddf Plant a Theuluoedd 2014 ddiwygio'r system AAA a chyflwyno cynlluniau statudol newydd o'r enw 'Cynlluniau Addysg, Iechyd a Gofal', fodd bynnag, dim ond i ddysgwyr ag anghenion difrifol a chymhleth y mae'r rhain (hy, maent yn cyfateb i datganiadau). Yng Nghymru, mae’r system ADY yn ymestyn yr hawliau i bob dysgwr ag ADY gael cynllun statudol - nid dim ond y rheini sydd â'r anghenion mwyaf difrifol neu gymhleth sy’n cael CDU.

7. Beth yw rôl plant, eu rhieni a phobl ifanc yn y broses o adnabod ADY a sicrhau cefnogaeth yn y system newydd?

Mae'r system newydd yn rhoi'r lle canolog i'r dysgwr ym mhopeth sy'n digwydd ac rydym yn disgwyl i ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion, sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol ganolbwyntio ar yr unigolyn wrth gynllunio ar gyfer plant a phobl ifanc a’u cefnogi nhw.

Mae'r Ddeddf ADY yn ei gwneud yn ofynnol i ystyried safbwyntiau, dymuniadau a theimladau plant, eu rhieni a phobl ifanc ym mhob rhan o broses y CDU. Mae’r templed CDU gorfodol yn cynnwys proffil un dudalen i sicrhau bod CDUau yn adlewyrchu anghenion a phersonoliaeth y plentyn neu’r person ifanc, gan gynnwys yr hyn sy’n bwysig iddynt ac ar eu cyfer.

8. Pwy sy'n gyfrifol am adnabod ADY ac am lunio, cynnal ac adolygu CDUau?

Caiff ADY ei adnabod, a CDU ei lunio a'i gynnal, naill ai gan ysgol, uned cyfeirio disgyblion, sefydliad addysg bellach neu awdurdod lleol. Pennir y sawl sy’n adnabod ADY ac yn llunio a chynnal y CDU yn dibynnu ar sut y caiff addysg y plentyn neu’r person ifanc ei darparu, difrifoldeb neu gymhlethdod ei anghenion ac amgylchiadau’r plentyn neu’r person ifanc, ee a ydynt yn blant sy’n derbyn gofal neu wedi’u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad, ac a yw’r person ifanc wedi rhoi’i gydsyniad. Gweler pennod 23 o’r Cod ADY i gael rhagor o wybodaeth.

Mae cynnal CDU yn golygu sicrhau'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd wedi'i chynnwys ynddo, ac adolygu'r CDU yn ôl y gofyn er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth sydd ynddo, a'r ddarpariaeth y mae'n ei disgrifio, yn parhau'n briodol.

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am gynnal CDUau i blant a phobl ifanc ag ADY:

  • nad ydynt yn mynychu ysgol a gynhelir, uned cyfeirio disgyblion na sefydliad addysg bellach
  • sydd wedi’u cofrestru mewn mwy na un lleoliad
  • sydd ag ADY sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ac na fyddai’n rhesymol i’r corff llywodraethu ei sicrhau

Hefyd, awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am gynnal CDUau i blant ag ADY sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Nid yw’r awdurdod lleol yn gyfrifol os nad yw’r person ifanc wedi rhoi cydsyniad.

9. A oes templed gorfodol ar gyfer CDUau?

Mae'r Ddeddf ADY yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cod ADY gynnwys un neu ragor o ffurflenni CDU safonol ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol ddefnyddio'r ffurflen/ffurflenni CDU. Gellir addasu arddull y CDU i gyd-fynd â dewisiadau lleol neu ddewisiadau’r plentyn neu berson ifanc.

Mae pob CDU yn cynnwys elfennau allweddol penodol ac yn cadw at yr un strwythur sylfaenol. Mae hyn yn sicrhau cysondeb a chydraddoldeb cyffredinol o ran sut mae dysgwyr yn cael eu trin, a bydd yn sylfaen i gydlyniant y system ADY yn ei chyfanrwydd a chludadwyedd CDUau.

Mae'r Cod yn darparu dwy ffurflen CDU orfodol, un i'w defnyddio yn achos plant nad ydynt yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, a phob person ifanc; ac un arall i'w defnyddio yn achos plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol. Mae penawdau a threfn y ffurflenni gorfodol yn adlewyrchu'r cynnwys manwl y mae'n rhaid ei gael mewn CDU ac sydd wedi'i nodi ym Mhenodau 13 ac 14 o'r Cod ADY.

10. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng CDU a gynhelir gan awdurdod lleol a CDU a gynhelir gan ysgol/uned cyfeirio disgyblion/sefydliad addysg bellach?

Mae gan CDU a gynhelir gan ysgol, uned cyfeirio disgyblion neu sefydliad addysg bellach a CDU a gynhelir gan awdurdod lleol yr un statws statudol yn union. Bydd yn rhaid i ba gorff bynnag sy'n llunio a chynnal y CDU sicrhau bod y CDU yn disgrifio ADY y plentyn neu'r person ifanc, a'r DDdY y mae ei ADY yn galw amdani, a rhaid iddo wedyn fynd ati i sicrhau'r DDdY honno.

Awdurdodau lleol, yn hytrach nag ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion neu sefydliadau addysg uwch, sy’n gyfrifol am gynnal CDUau i blant a phobl ifanc ag ADY:

  • nad ydynt yn mynychu ysgol a gynhelir, uned cyfeirio disgyblion na sefydliad addysg uwch
  • sydd wedi’u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad a bod un o’r lleoliadau hynny yn ysgol a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion
  • sydd ag ADY sy’n galw am CDU na fyddai’n rhesymol i’r corff llywodraethu ei sicrhau

Nid yw awdurdodau lleol yn gyfrifol os na fydd y person ifanc wedi rhoi ei gydsyniad.

Mae pennod 12 o'r Cod ADY yn rhoi eglurder ynghylch pryd y dylai ysgol neu uned cyfeirio disgyblion gyfeirio disgybl i awdurdod lleol i benderfynu a oes gan y disgybl ADY ac i benderfynu ai'r awdurdod lleol, yr ysgol neu’r uned cyfeirio disgyblion ddylai fod yn gyfrifol am gynnal CDU. Mae'n rhoi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch sut y dylent benderfynu a yw'n rhesymol i ysgol sicrhau'r DDdY sy'n ofynnol ar gyfer plentyn neu berson ifanc, neu a yw'n rhesymol i'r uned cyfeirio disgyblion neu’r awdurdod lleol wneud hynny. Mae hefyd yn nodi y dylai'r awdurdod lleol sefydlu cyfres o egwyddorion y byddant yn eu defnyddio wrth benderfynu a yw'n rhesymol i ysgol neu uned cyfeirio disgyblion sicrhau'r DDdY neu ai'r awdurdod lleol ddylai wneud hynny.

Y Gymraeg

11. Sut bydd y Ddeddf ADY yn helpu i greu system ddwyieithog i gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY ledled Cymru?

Un o nodau craidd y Ddeddf ADY yw creu system gymorth ddwyieithog ar gyfer dysgwyr ag ADY. Mae hi’n ofynnol i awdurdodau lleol/cyrff llywodraethu ystyried a ddylai plentyn neu berson ifanc gael DDdY yn y Gymraeg; mae’r ddyletswydd hon yn un barhaus, yn hytrach na phenderfyniad a wneir unwaith yn unig. Os penderfynir y dylai plentyn neu berson ifanc gael DDdY yn Gymraeg, rhaid cofnodi hyn yn y CDU a chymryd pob cam rhesymol i sicrhau’r ddarpariaeth yn y Gymraeg. Darllenwch bennod 3 o’r Cod ADY i gael rhagor o wybodaeth. 

Hefyd, bydd cyfres o ddyletswyddau strategol yn ceisio hybu'r camau tuag at system ADY ddwyieithog. Yn benodol, wrth adolygu eu trefniadau ar gyfer ADY, ac i ba raddau y mae'r trefniadau hynny yn ddigonol i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc, mae hi’n ofynnol i awdurdodau lleol ystyried digonolrwydd DDdY a gyflwynir drwy'r Gymraeg. Os bydd awdurdod lleol yn ystyried nad yw'r trefniadau yn ddigonol, gan gynnwys y DDdY sydd ar gael drwy'r Gymraeg, rhaid iddo gymryd pob cam rhesymol i unioni'r mater. Wrth wneud hyn, gall awdurdodau lleol gysylltu eu hadolygiad o DDdY â dyletswyddau strategol ehangach, gan gynnwys y rheini o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddrafftio ac ymgynghori ynghylch Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, a’u cyhoeddi.

Rolau allweddol

12. Beth yw rôl y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a sut mae hyn yn wahanol i rôl y Cydlynwyr Anghenion Addysgol Arbennig (Cydlynydd AAA) presennol?

Mae rôl y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn un statudol.

Mae adran 60 o'r Ddeddf ADY yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau addysg bellach ac ysgolion prif ffrwd a gynhelir ddynodi unigolyn penodol i fod yn CADY, gan gynnwys meithrinfeydd a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion.

Er bod pob athro ac aelod o staff addysgu yn addysgu plant a phobl ifanc ag ADY, y CADY yw’r unigolyn sy’n mynd ati ar lefel strategol i sicrhau bod anghenion pob dysgwr ag ADY yn y lleoliad addysg yn cael eu diwallu. Mae ei rôl yn un strategol o fewn y lleoliad addysg a dylai, felly, naill ai fod yn aelod o’r uwch dîm arwain neu fod â llinell gyfathrebu glir â’r uwch dîm arwain. Bydd hyn o gymorth i’r lleoliad addysg wrth gynllunio, rheoli a chyflawni ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau o ran adnabod a diwallu anghenion plant a phobl ifanc sydd ag ADY.

Mae Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 yn rhagnodi'r cymwysterau a'r profiad sy'n ofynnol er mwyn bod yn CADY a'r swyddogaethau a roddir iddo.

Mae pennod 8 o’r Cod ADY yn nodi rôl y CADY.

13. Beth yw rôl y Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (SACDA)?

Mae Deddf ADY yn gosod dyletswydd ar bob bwrdd iechyd lleol i ddynodi swyddog i fod yn gyfrifol am gydlynu swyddogaethau'r bwrdd iechyd mewn perthynas â phlant a phobl ifanc ag ADY. Gelwir y person hwnnw yn Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (SACDA).

Rhaid i'r SACDA fod un ai'n ymarferwr meddygol cofrestredig neu'n nyrs cofrestredig neu'n weithiwr iechyd proffesiynol arall. Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, wrth ddynodi swyddog fel SACDA, sicrhau bod y swyddog yn meddu ar y cymwysterau a’r profiadau addas o ran darparu gofal iechyd i blant a phobl ifanc ag ADY.

Mae pennod 9 o'r Cod ADY yn amlinellu rôl y SACDA.

14. Beth yw rôl Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar?

Mae’r Ddeddf ADY yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ddynodi Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar, sy’n gyfrifol am gydlynu swyddogaethau'r awdurdod lleol o dan y Ddeddf ADY mewn perthynas â phlant o dan oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn mynychu ysgolion a gynhelir neu unedau cyfeirio disgyblion.

Mae Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar yn rôl strategol a dylai fod dwy agwedd ar y rôl: rôl sy'n wynebu tuag i mewn a thuag allan. Diben y rôl sy'n wynebu tuag i mewn yw bod yn gyfrifol am drefniadau'r awdurdod lleol ar gyfer arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â charfan y Swyddog Arweiniol ADY. Er mwyn cefnogi’r gwaith o arfer y swyddogaethau hynny'n effeithiol, mae'r rôl sy'n wynebu tuag allan yn ymwneud â datblygu a chynnal perthynas effeithiol ag eraill sy'n gweithio gyda charfan Swyddog Arweiniol ADY yr awdurdod lleol.

Dylai Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar fod â chyfrifoldeb cyffredinol o fewn yr awdurdod lleol am sicrhau bod trefniadau priodol ar waith i alluogi'r awdurdod lleol i gyflawni'n briodol ei swyddogaethau o dan y Ddeddf mewn perthynas â charfan y Swyddog Arweiniol ADY.

Nid oes gofyniad personol ar Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar i gyflawni swyddogaethau'r awdurdod lleol mewn perthynas â phlant unigol (er enghraifft, lunio'r CDU ar gyfer pob plentyn yng ngharfan y Swyddog Arweiniol ADY). Er y gall Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar wneud hynny ei hun neu oruchwylio eraill yn gwneud hynny, gall swyddogion eraill gyflawni'r swyddogaethau hynny o ddydd i ddydd.

Mae pennod 10 o'r Cod ADY yn rhoi rhagor o fanylion ynghylch yr hyn a ddisgwylir gan Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar.

Datrys anghytundeb ac apelau

15. Beth sy'n digwydd pan fydd plentyn, rhiant neu berson ifanc yn anghytuno â phenderfyniad am ADY a wneir gan ysgol, uned cyfeirio disgyblion, awdurdod lleol neu sefydliad addysg bellach?

Weithiau, gall anghytundebau godi. Y rhan fwyaf o'r amser, gellir datrys anghytundebau drwy drafod y broblem gyda'r ysgol, yr UCD neu’r awdurdod lleol. Os ydych yn anhapus gydag unrhyw beth, dylech roi gwybod cyn gynted â phosibl. Siaradwch â chydlynydd anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol (CADY) bob amser cyn gynted ag y bydd gennych ofidiau neu bryderon. Bydd cydweithio yn rhoi cyfleoedd i drafod unrhyw broblemau ac yn helpu i'w datrys yn gynnar.

Os ydych yn dal yn anhapus, yna dylech siarad â'ch awdurdod lleol i ofyn am gyngor pellach.

Bydd y plentyn, ei riant neu'r person ifanc yn gallu defnyddio trefniadau datrys anghydfod yr awdurdod lleol. Bydd y trefniadau hyn, gobeithio, yn datrys anghytundebau y tu allan i'r Tribiwnlys. Nid yw'n orfodol defnyddio'r trefniadau hyn ac nid ydynt yn effeithio ar hawl plentyn, ei riant neu berson ifanc i apelio i'r Tribiwnlys. Un o fanteision posibl y trefniadau yw y dylent fel arfer leihau'r angen i fynd ag anghydfod i'r Tribiwnlys ac yn arwain at ddatrys anghytundebau yn gyflymach. Byddai hynny’n lleihau'r angen i darfu ar broses ddysgu'r plentyn neu'r person ifanc ac yn arbed cryn amser ac arian i'r partïon dan sylw.

Hefyd, mae Deddf 2018 yn gosod gofynion ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau ar gyfer y ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc pan fyddant o bosibl yn anghytuno â phenderfyniad.

Os bydd y plentyn, y rhiant neu'r person ifanc dan sylw yn anhapus o hyd â phenderfyniad awdurdod lleol neu sefydliad addysg bellach, gall apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru ('y Tribiwnlys').

Mae pennod 32 o’r Cod ADY yn gosod canllawiau a gofynion mewn perthynas â’r dyletswyddau ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i osgoi a datrys anghydfodau ac ar gyfer darparu gwasanaethau eiriolaeth annibynnol.

16. Beth yw cylch gwaith y Tribiwnlys Addysg?

Mae Deddf 2018 yn ailenwi Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn Dribiwnlys Addysg Cymru ('y Tribiwnlys’). Mae’r Tribiwnlys yn gwrando ar apelau a cheisiadau ynghylch plant a phobl ifanc sydd ag ADY, neu y gallai fod ganddynt ADY, ac yn penderfynu yn eu cylch. Yn benodol, mae’n gwrando ar apelau ynghylch penderfyniadau corff llywodraethu sefydliad addysg bellach neu awdurdod lleol yng Nghymru, ac yn penderfynu yn eu cylch. Hefyd, mae’n gwrando ar hawliadau ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd mewn perthynas ag ysgolion neu unedau cyfeirio disgyblion. 

Mae’r Tribiwnlys yn gallu gwneud penderfyniadau ynghylch gallu plentyn i ddeall materion sy’n ymwneud â’r system ADY, gan gynnwys yr hyn y mae cyflwyno apêl i Dribiwnlys yn ei olygu. Os bydd yn datgan nad oes gan blentyn allu digonol i ddeall, mae’r Tribiwnlys yn gallu penodi cyfaill achos i’r plentyn hwnnw os gwneir cais.

Mae’r Tribiwnlys yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a sefydliadau addysg bellach; ac mae ei benderfyniadau yn rhwymo awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach mewn cyfraith. 

Mae’r Tribiwnlys hefyd yn gallu mynnu bod corff GIG yn darparu tystiolaeth ynghylch yr elfennau o apêl sy’n ymwneud ag iechyd a gall wneud argymhellion i gorff GIG ynghylch arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf. Os bydd y Tribiwnlys yn gwneud argymhelliad i gorff GIG, rhaid i'r corff hwnnw adrodd yn ôl i'r Tribiwnlys yn nodi'r camau y mae wedi'u cymryd neu y mae'n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i argymhelliad y Tribiwnlys; neu pam nad yw wedi cymryd ac nad yw'n bwriadu cymryd unrhyw gamau mewn ymateb i'r argymhelliad.

Bydd rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf yn amlinellu'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud apelau, ceisiadau a hawliadau i'r Tribiwnlys. Mae pennod 26 o’r Cod ADY yn darparu gwybodaeth am apelau a cheisiadau i'r Tribiwnlys. 

Sut mae’r system newydd yn gymwys mewn amgylchiadau penodol?

17. Hoffwn i fy mhlentyn symud i’r system ADU, i bwy y dylwn ofyn?

Yn ystod blwyddyn ysgol 2021 i 2022, gellir gwneud cais i symud o’r system AAA i’r system ADY pan fo gan blentyn AAA (ond nid datganiad) ar 1 Ionawr 2022 a’i fod yn mynychu meithrinfa a gynhelir, ysgol a gynhelir, uned cyfeirio disgyblion a’i fod mewn unrhyw flwyddyn hyd at a chan gynnwys Blwyddyn 10.

Gall plant a rhieni ofyn i’w meithrinfa a gynhelir, eu hysgol a gynhelir, eu huned cyfeirio disgyblion neu eu hawdurdod lleol i symud i’r system ADY. Gallant wneud hyn wyneb yn wyneb neu drwy anfon e-bost neu neges destun. Bydd y sawl y dylech ofyn iddo yn amrywio gan ddibynnu ar amgylchiadau’r plentyn.

Os yw plentyn yn mynd i un feithrinfa a gynhelir, ysgol a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion ac nad yw’n derbyn gofal, dylid gwneud cais i symud i system ADY i’r feithrinfa a gynhelir, yr ysgol a gynhelir neu’r uned cyfeirio disgyblion.

Os yw plentyn yn cael addysg mewn mwy nag un lle, fel ysgol ac uned cyfeirio disgyblion, neu’n derbyn gofal, dylid gwneud cais i symud i’r system ADY i’r awdurdod lleol.

18. Mae gan fy mhlentyn AAA ac mae'n cael cymorth drwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy. A fydd gan fy mhlentyn ADY ac a fydd yn cael CDU?

Mae ystyr AAA ac ADY yr un fath. Mae'n debygol y bydd gan blant ag AAA ADY. Bydd gan bob plentyn sydd ag ADY CDU.

Ar adegau, ni fydd gan blentyn ag AAA ADY gan fod ei anghenion wedi newid ac nad oes angen cymorth ychwanegol arno mwyach i'w helpu i ddysgu.

Bydd y plentyn yn cael hysbysiad dim CDU. Os nad yw'r plentyn neu ei riant yn cytuno â'r hysbysiad dim CDU, gall siarad â'r feithrinfa awdurdod lleol, yr ysgol awdurdod lleol, yr uned cyfeirio disgyblion neu'r awdurdod lleol am y mater.

Gall plant, neu eu rhieni, ofyn i'r awdurdod lleol ailystyried penderfyniad meithrinfa awdurdod lleol, ysgol awdurdod lleol neu UCD. Os ydynt yn anhapus gyda phenderfyniad yr awdurdod lleol, gallant apelio i'r Tribiwnlys i wneud penderfyniad.

19. Mae gan fy mhlentyn AAA ac mae'n cael cymorth drwy weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy. A fydd y cymorth mae fy mhlentyn yn ei gael yn newid o dan y system ADY?

Pan fydd plant yn symud i'r system ADY, mae’n debygol y byddant yn parhau i gael yr un cymorth. Y rheswm am hyn yw bod y gyfraith yn dweud bod rhaid i feithrinfeydd awdurdod lleol, ysgolion awdurdod lleol, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol feddwl am y cymorth mae plentyn eisoes yn ei gael pan fyddant yn gwneud y CDU.

Weithiau, bydd anghenion plentyn wedi newid ac efallai y bydd angen llai o gymorth neu fwy o gymorth ar y plentyn. Dylai plant a rhieni fod yn rhan o drafodaethau am anghenion cymorth.

20. Os oes gan bob plentyn ag ADY CDU, a fydd pob plentyn yn cael yr un math o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY)?

Gelwir y system bresennol o weithredu gan yr ysgol, gweithredu gan yr ysgol a mwy a datganiad yn ddull graddedig. Y syniad o ddull graddedig yw dechrau gyda lefel isel o ddarpariaeth addysgol arbennig ac, os nad yw hyn yn helpu plentyn i wneud cynnydd, yna rhoddir mwy o gymorth. Mae hyn yn golygu y gall plant symud o weithredu gan yr ysgol i weithredu gan yr ysgol a mwy ac i ddatganiadau yn dibynnu ar faint o gymorth sydd ei angen arnynt.

Mae'r system ADY yn disodli gweithredu gan yr ysgol, gweithredu gan yr ysgol a mwy a datganiadau. Ond efallai y bydd ysgolion, UCDau ac awdurdodau lleol yn dal i ddefnyddio dull graddedig wrth gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY.

Gellir galw'r ymateb graddedig, er enghraifft, yn ddarpariaeth yn yr ysgol (darperir darpariaeth ddysgu ychwanegol gan staff sy'n gweithio yn yr ysgol), darpariaeth wedi'i thargedu (darperir darpariaeth ddysgu ychwanegol gan staff arbenigol fel therapyddion lleferydd ac iaith) a darpariaeth benodol (fel lleoliad mewn ysgol arbennig) ar gyfer y plant hynny ag ADY sydd ag anghenion mwy cymhleth.

Mae dull graddedig o dan y system ADY yn wahanol i'r dull graddedig o dan y system AAA.

O dan y system AAA, ni roddwyd pob lefel o'r dull graddedig mewn cynllun statudol (datganiad). Dim ond anghenion cymorth lefel uchel neu anghenion cymorth cymhleth a roddwyd mewn datganiad. Rhoddwyd anghenion cymorth lefel isel (gweithredu gan yr ysgol) a lefel ganolig (gweithredu gan yr ysgol a mwy) mewn cynllun addysg unigol. Nid yw cynllun addysg unigol yn gynllun statudol.

O dan y system ADY, bydd pob lefel o'r dull graddedig yn cael ei rhoi mewn cynllun statudol (CDU). Bydd anghenion cymorth lefel uchel, lefel ganolig a lefel isel yn cael eu rhoi mewn CDU.

Mae'r dull graddedig yn ymwneud â lefel y cymorth a nodir mewn CDU.

Mae hyn yn golygu y bydd gan bob plentyn sydd ag ADY gynllun statudol (CDU), pa lefel bynnag o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen arno. Y rheswm am hyn yw bod CDUau yn cael eu defnyddio ar gyfer pob lefel o'r dull graddedig.

Gall CDU ddechrau drwy ddweud y bydd ychydig o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei darparu gan yr ysgol. Os na fydd y plentyn yn gwneud cynnydd, bydd y CDU yn cael ei adolygu a bydd yn nodi mwy o gymorth y gallai fod ei angen ar blentyn. Gallai hyn gynnwys darpariaeth a ddarperir gan athrawon neu gan wasanaethau eraill fel therapydd lleferydd ac iaith.

Os bydd plentyn yn parhau i beidio â gwneud cynnydd, efallai y bydd angen mwy o gymorth nag y gall yr ysgol ei ddarparu. Yna, bydd yr ysgol yn atgyfeirio'r CDU i'r awdurdod lleol.

21. A yw cael addasiad rhesymol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb yn effeithio ar hawl i CDU?

Efallai y ar blentyn angen i’r ysgol wneud addasiad rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Efallai fod gan yr un plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) hefyd, ac os felly bydd angen CDU arno hefyd (yn amodol ar yr eithriadau sy'n gysylltiedig â chynlluniau Addysg, Iechyd a Gofal ac asesiadau Addysg, Iechyd a Gofal ar gyfer plant sy'n byw yn Lloegr).

Rhaid ystyried a oes gan blentyn ADY ac, os felly, y DDdY benodol sydd ei hangen arnynt, yn unigol ym mhob achos. Mae gan ysgolion a gynhelir ddyletswyddau o dan y Ddeddf ADY a Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae'r dyletswyddau ar wahân a gall fod ar ddysgwr angen addasiadau rhesymol, darpariaeth o dan CDU, neu mewn rhai achosion, y ddau. Felly, nid yw cyflawni'r dyletswyddau o dan un Ddeddf yn dileu'r angen i gyflawni'r dyletswyddau o dan y llall.

22. A oes trothwyon yn seiliedig ar lefel yr angen am gymhwysedd CDU?

Mae CDUau ar gyfer dysgwyr sydd â phob lefel o ADY, o anghenion ysgafnach i anghenion cymhleth. Mae cymhwysedd am CDU bob amser yn dibynnu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc unigol anhawster dysgu neu anabledd sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY). Os yw'n ymddangos bod angen cymorth ychwanegol ar blentyn oherwydd anhawster dysgu neu anabledd, rhaid i'r ysgol a gynhelir neu'r awdurdod lleol fel arfer benderfynu a oes gan y plentyn ADY. Os penderfynir bod ganddynt ADY, yn gyffredinol bydd ganddynt hawl i CDU sy'n cofnodi'r DDdY i'w wneud iddynt ddiwallu eu hanghenion dysgu ychwanegol. Mae'r sefyllfa'n debyg iawn i bobl ifanc, er mai sefydliad addysg bellach fydd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad o bosibl.

Mae rhai eithriadau i hyn, megis os oes gan y plentyn neu'r person ifanc gynllun Addysg, Iechyd a Gofal, neu yn achos person ifanc ag ADY nad yw mewn ysgol a gynhelir neu sefydliad addysg bellach yng Nghymru, rhaid i'r awdurdod lleol benderfynu, yn unol â Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021, a oes angen CDU i ddiwallu eu hanghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant. Ymdrinnir â hyn i gyd yn y Cod ADY yn fanylach.

Gan ddefnyddio ymateb graddedig, dylai DDdY ddechrau ar y lefel isaf sy'n angenrheidiol i ddiwallu anghenion y plentyn neu'r person ifanc, gan ddefnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael cyn cyflwyno arbenigedd arbenigol. Efallai y bydd angen mwy o DDdY ar rai plant neu bobl ifanc dros amser os bydd eu cynnydd yn parhau i achosi pryder, ond efallai y bydd angen llai o DDdY ar rai yn raddol os yw'r ymyriadau'n llwyddiant. Ymdrinnir â hyn yn y Cod ADY hefyd.

23. Beth yw DDdY? Pa gymorth gan wasanaethau arbenigol yw DDdY?

Pan gaiff ei ddwyn i sylw ysgol, sefydliad addysg bellach neu awdurdod lleol neu pan fo’n ymddangos neu fel arall y gall fod gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol (ADY), rhaid i'r ysgol a gynhelir, y sefydliad addysg bellach neu'r awdurdod lleol fel arfer benderfynu a oes gan y plentyn neu'r person ifanc ADY. Os penderfynir bod gan y plentyn ADY, fel rheol bydd gofyn i'r ysgol, y sefydliad addysg bellach neu'r awdurdod lleol baratoi a chynnal Cynllun Datblygu Unigol (CDU) ar gyfer y plentyn.

Mae'r prawf ar gyfer cael ADY wedi'i nodi yn y Ddeddf (a.2) ac mae i'w gymhwyso i bob plentyn neu berson ifanc yn unigol, rhaid cymhwyso'r prawf bob amser yng ngoleuni'r amgylchiadau dan sylw. Mae ADY yn dibynnu ar y person sydd ag anhawster dysgu neu anabledd sy'n galw am Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY), sef darpariaeth addysgol neu hyfforddiant sy'n wahanol i'r hyn a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill o'r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir, sefydliadau addysg bellach prif ffrwd a mannau lle darperir addysg feithrin.

Y DDdY y mae anhawster dysgu neu anabledd plentyn neu berson ifanc yn galw amdani y mae'n rhaid ei nodi yn y CDU (gweler adran 10(b) o'r Ddeddf). Mae'r DDdY y mae plentyn neu berson ifanc ag ADY ei hangen yn benodol iddynt hwy ac yn dibynnu ar eu hanghenion a'u hamgylchiadau unigol.

Os oes gwasanaeth arbenigol ar gael i bob dysgwr ag anabledd neu gyflwr penodol, mae'r gwasanaeth hwnnw'n debygol o fod yn DDdY ar gyfer dysgwyr unigol. Bydd pa un a yw'n DDdY mewn unrhyw achos penodol yn dibynnu a elwir amdano yn sgil anhawster neu anabledd dysgu'r plentyn neu'r person ifanc ac a yw'n ddarpariaeth addysgol neu hyfforddiant sy'n ychwanegol at neu'n wahanol i'r ddarpariaeth gyffredinol ar gyfer pob dysgwr o oedran y plentyn neu'r person ifanc (gan gynnwys y rhai nad oes ganddynt yr anabledd neu'r cyflwr dan sylw).

Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen mathau anuniongyrchol o gymorth, megis hyfforddi'r person sydd i ddarparu'r DDdY, er mwyn i unrhyw DDdY a nodwyd gael ei ddarparu. Mae'r Cod ADY yn rhagweld y gellir nodi'r manylion hyn yn adran DDdY y CDU (paragraff 23.37):

Bydd yr wybodaeth a gofnodir am y DDdY yn fwy defnyddiol os yw’n cael ei chyflwyno mewn ffordd glir. Dylai’r wybodaeth fod yn fanwl, yn benodol ac yn fesuradwy. Gallai’r eglurder hwn ddeillio o ddisgrifio’r tasgau neu’r camau penodol a fydd yn cael eu cyflawni; gallai hefyd fanylu ar yr hyfforddiant neu’r cymwysterau y bydd eu hangen ar unrhyw aelodau staff. Ni fydd datgan yn unig y bydd cymorth yn cael ei ddarparu yn bodloni’r angen i fod yn eglur; mae’n bwysig disgrifio’r tasgau y bydd unrhyw staff yn eu gwneud neu’n eu hwyluso, yr hyn y byddant yn gyfrifol amdano, ac, os oes angen, y cymwysterau neu’r hyfforddiant y bydd eu hangen arnynt.

Felly, gallai hyfforddiant arbenigol ar gyfer staff addysgu, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, fod yn rhan o'r disgrifiad o DDdY mewn CDU plentyn neu berson ifanc unigol. Fodd bynnag, nid yw pob mewnbwn gan wasanaethau arbenigol o reidrwydd yn DDdY. Gellir darparu rhywfaint o gymorth gan wasanaethau arbenigol, gan gynnwys rhai mathau o hyfforddiant staff, at ddibenion eraill, megis helpu staff i nodi anghenion neu i godi ymwybyddiaeth am amodau penodol yn gyffredinol.