Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n cyhoeddi’r datganiad hwn i roi diweddariad i Aelodau am ein cefnogaeth barhaus ar gyfer Gwasanaethau Cynghori.

Y Gronfa Gynghori Sengl

Yn fy natganiad ysgrifenedig ar 2 Hydref 2019, cyhoeddais fy mod wedi cyflwyno'r Gronfa Cynghori Sengl i sicrhau y gall Llywodraeth Cymru fod yn hyderus ei bod yn rhoi cyllid grant i wasanaethau cynghori â sicrwydd ansawdd sydd wedi’u cynllunio’n strategol ac yn cael eu darparu gan ddarparwyr sy'n cydweithredu.

Aeth gwasanaethau'r Gronfa Cynghori Sengl yn fyw ym mis Ionawr 2020 ac yn ystod y cyfnod hyd at ganol mis Mawrth roedd gwasanaethau'n cael eu darparu o galon cymunedau ac yn cyrraedd llawer o bobl cyn i'w problemau ddechrau mynd tu hwnt i reolaeth. Fodd bynnag, roedd pandemig Covid-19 wedi golygu bod y gwasanaethau wyneb yn wyneb yn y gymuned wedi gorfod cau, a bu’n rhaid i ddarparwyr drosglwyddo eu gwasanaethau cynghori i sianeli mynediad o bell, e.e., ffôn, e-bost a gwe-sgwrsio etc. 

Cyfarfûm yn ddiweddar â rhai o'r darparwyr sy'n darparu gwasanaethau'r Gronfa Cynghori  Sengl ac roeddwn yn falch o glywed bod eu model darparu cydweithredol o Bartneriaid Cynghori a Phartneriaid Mynediad[1] wedi profi'n amhrisiadwy o ran sicrhau bod rhai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed[2] wedi gallu cael gafael ar wasanaethau cynghori o bell.

Yn ystod y cyfnod rhwng Ionawr 2020 a Medi 2020 cafodd dros 82,000 o bobl gymorth drwy wasanaethau'r Gronfa Cynghori Sengl, gan fynd i'r afael yn aml â phroblemau amrywiol mewn perthynas â dyledion, gwahaniaethu, tai cyflogaeth a budd-daliadau lles. Rwy'n arbennig o falch o adrodd bod y gwasanaethau cynghori ar fudd-daliadau wedi helpu pobl i hawlio dros £20 miliwn o incwm budd-dal lles ychwanegol.

Rwy'n falch iawn o ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau cynghori'n ariannol a gallaf gadarnhau fy mod wedi cytuno i ymestyn y cyllid grant presennol ar gyfer y Gronfa Cynghori Sengl hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021 ac, yn amodol ar gadarnhad o'r gyllideb, rwyf wedi cymeradwyo ymestyn y cyllid grant am 12 mis arall tan fis Mawrth 2022. 

Y Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol

Sefydlwyd Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol Cymru (NAN) yn 2015 mewn ymateb i argymhelliad yn Adolygiad Llywodraeth Cymru o Wasanaethau Cynghori. Roedd yr argymhelliad yn galw ar Weinidogion Cymru i greu grŵp cynghori arbenigol diduedd i gefnogi datblygiad strategol y sector cynghori yng Nghymru. Wrth gyflawni ei rôl gynghori, helpodd NAN i ddrafftio’r Cynllun Gweithredu Gwybodaeth a Chyngor Cymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2016.

Mae NAN wedi bod yn rhan allweddol o’r gwaith o oruchwylio'r cynnydd rhagorol rydym wedi'i wneud o ran gweithredu'r ymrwymiadau yn y Cynllun Gweithredu Gwybodaeth a Chyngor, gan gynnwys cyflwyno'r Gronfa Cynghori Sengl sy'n cyflawni'r ymrwymiad i Lywodraeth Cymru gael dull mwy strategol o ariannu gwasanaethau cynghori.

Dros y chwe mis diwethaf, mae NAN wedi gweithio gyda swyddogion i nodi a deall effeithiau tymor byr, canolig a hirdymor pandemig Covid-19 ar y sector cynghori yng Nghymru. I barhau â'r gwaith pwysig hwn mae'n bwysig i'r NAN gael cyfnod o sefydlogrwydd. Cyfarfûm felly â Mrs Fran Targett, Cadeirydd NAN, a chynigiais ymestyn ei chyfnod fel Cadeirydd tan 31 Mawrth 2022. Rwy'n falch bod Mrs Targett wedi derbyn fy nghynnig. Rwyf hefyd wedi gwahodd aelodau unigol NAN i aros yn eu rôl tan 31 Mawrth 2022.

Casgliad

Mae'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu drwy'r Gronfa Cynghori Sengl yn enghreifftiau gwych o sut rydym yn sicrhau bod y bobl sydd ei angen fwyaf yn cael y cyngor a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i wella eu bywydau. Fodd bynnag, bydd effaith economaidd pandemig Covid-19 yn parhau i gynyddu'r galw am fynediad at wasanaethau cynghori a rhaid inni gynnal ein gwaith cydweithredol â rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod polisïau ar waith a fydd yn ateb yr heriau sydd o'n blaenau.

[1] Sefydliadau trydydd sector nad ydynt yn darparu cyngor yw partneriaid mynediad, ond sy'n helpu ac yn cefnogi pobl i ddefnyddio’r broses gynghori’n effeithiol.

[2] Mae 82% o’r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau'r Gronfa Cynghori Sengl yn dod o'n grwpiau blaenoriaeth allweddol, e.e. pobl hŷn, cymunedau BAME, pobl ag anableddau, neu'n byw gyda chyflyrau iechyd penodol, etc.