Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli am bersonau a wedi'u rhoi mewn llety dros dro a phobl sydd yn cysgu allan ar gyfer Awst 2020.

Mae'r casgliad misol hwn yn disodli'r casgliad wythnosol o wybodaeth yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Mae’r wybodaeth yn cynnwys llety argyfwng a’r llety hirdymor a ddarperir i bobl (16+ oed) sy’n wneud cais i’r awdurdodau lleol am gymorth tai gan eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref.

Nid yw’r data hyn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gellir diwygio'r data yn y dyfodol. Dylid trin y ffigurau ar gyfer y mis diweddaraf fel rhai dros dro. Nid yw pob awdurdod lleol wedi gallu darparu data cynhwysfawr ac adlewyrchir hynny, os yw’n berthnasol, yn y troednodiadau.

I ddechrau, rydym yn cyhoeddi data ar lefel Cymru yn unig. Rydym yn dal i asesu a deall ansawdd y data sy'n cael eu casglu. Yn y dyfodol, byddwn yn ystyried cyhoeddi dadansoddiadau eraill os yw’n bosibl, gan gynnwys fesul awdurdod lleol.

Y gallu i gymharu’r data ag ystadegau ar ddigartrefedd statudol

Mae'n bwysig nodi'r gwahaniaethau hyn rhwng y casgliad misol newydd hwn a'n casgliadau data a chyhoeddiadau presennol ar ddigartrefedd statudol.

Prif bwyntiau

  • Ledled Cymru, cafodd 974 o bobl ddigartref eu rhoi mewn llety argyfwng yn ystod y mis.
  • Symudwyd 476 o unigolion digartref i lety hirdymor addas (a)(b).
  • Ar 31 Awst 2020 roedd 3,566 o unigolion mewn llety dros dro (b)(c)(d).
  • Ar 31 Awst 2020 roedd 101 o unigolion yn cysgu allan ledled Cymru (e).

(a) Nid oedd un ALl yn gallu darparu unrhyw ddata ar gyfer y categori hwn.
(b) Roedd un ALl wedi adrodd am aelwydydd, nid unigolion. Felly, bydd tangyfrif bach yng nghyfanswm y ffigur a gyflwynir.
(c) Nid oedd un ALl wedi cynnwys y rheini sy’n ddigartref mewn cartref.
(d) Nid oedd un ALl wedi gallu cael data o lochesi menywod yn eu ALl.
(e) Gofynnir i awdurdodau lleol seilio'r data hyn ar wybodaeth leol, nid cyfrif un noson.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.