Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd cyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) yn cael ei gynnal prynhawn yma, gyda’r cyfranogwyr yn cymryd rhan o bell. Hwn fydd pedwerydd cyfarfod y Cyd-bwyllgor ers i Lywodraeth Cymru gynnal y cyfarfod yng Nghaerdydd ddiwedd mis Ionawr. 

Bydd y cyfarfod yn trafod y negodiadau rhwng y DU a’r UE, gan gynnwys Cyd-bwyllgor a Phwyllgorau Arbenigol y Cytundeb Ymadael a Phrotocol Gogledd Iwerddon; diweddariad ar y materion pontio gan gynnwys Parodrwydd y DU; a thrafodaeth ar Farchnad Fewnol y DU.

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ôl y cyfarfod.